– Senedd Cymru ar 28 Medi 2021.
Eitem 6, dadl y Llywodraeth ar ddefnyddio adolygiad o wariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diogelwch tipiau glo yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein hinsawdd yn newid. Adroddodd y Swyddfa Dywydd ym mis Gorffennaf eleni y dylem ni ddisgwyl patrwm o dywydd gwlypach, stormydd amlach a glaw trymach. Nid oes amheuaeth ein bod ni'n gweld newid hinsawdd dinistriol yn datblygu o'n blaenau. Mae'r asesiad diweddaraf o effaith newid hinsawdd yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i ni yma yng Nghymru. Mae'n nodi, ymysg effeithiau ehangach, y risg gynyddol o gwympiadau tir, tirlithriadau ac ymsuddiant yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau glofaol hanesyddol, ac nid rhagolygon damcaniaethol yn unig yw'r rhain. Ym mis Chwefror 2020, o ganlyniad i stormydd dinistriol, gwelsom ni i gyd effaith y tirlithriad yn Nhylorstown, sy'n ein hatgoffa'n llwyr o etifeddiaeth hanes diwydiannol Cymru. Amlygodd y tirlithriad hwn fod risgiau o hyd yn gysylltiedig â'n gorffennol glofaol balch. Ym mis Chwefror eleni, gwelsom dirlithriad ym Mhentre yn bygwth tarfu sylweddol. Mae angen i ni sicrhau nad yw etifeddiaeth cloddio glo yn parhau i beri perygl i ddiogelwch y cyhoedd gan hefyd baratoi ar gyfer heriau newid hinsawdd, a allai achosi tywydd mwy eithafol. Ac wrth gwrs, ymhen ychydig wythnosau yn unig, byddwn ni'n cofio canlyniadau dinistriol llithriad y domen a laddodd 144 o bobl, 116 ohonyn nhw'n blant, ar 21 Hydref 1966 yn Aberfan.
Etifeddiaeth ein gorffennol glofaol, y rhannwyd ei fuddion ledled y DU gyfan, yw'r dros 2,100 o domenni glo segur ledled Cymru. Pan grëwyd y tomenni hyn, nid oedd effaith lawn allyriadau carbon o lo, olew a nwy o ran ysgogi newid hinsawdd yn hysbys eto. Nid oedd systemau draenio tipiau wedi'u cynllunio i ymdopi â faint o law a ragwelir erbyn hyn, ac oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn awr, mae ein cymunedau'n wynebu mwy o ansicrwydd yn y dyfodol. Trwy fynd i'r afael â'r materion hyn, gallwn ni osgoi cynnydd diangen mewn allyriadau carbon.
Mae etifeddiaeth cloddio am lo yn effeithio yn anghymesur ar Gymru. Mae tua 40 y cant o domenni glo segur Prydain yma yng Nghymru. O'r tomenni risg uwch, mae mwy na 90 y cant wedi'u lleoli yng nghymoedd y de. Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw'r setliad datganoli presennol a fformiwla Barnett yn methu â chydnabod hyn nac yn adlewyrchu anghenion Cymru yn ddigonol yn hyn o beth. Mae sicrhau diogelwch tomenni yn gofyn am waith cynnal a chadw parhaus gan Lywodraeth Cymru. Mae'r costau adfer sy'n cael eu gwaethygu erbyn hyn gan newid hinsawdd ar raddfa sy'n llawer uwch nag unrhyw beth a ragwelwyd pan ddechreuodd datganoli yn 1999. Nid ydyn nhw yn cael eu hadlewyrchu yn ein trefniadau ariannu presennol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gytuno i ariannu'r costau hyn, neu mae'n golchi ei dwylo o'i gorffennol glofaol a'i chyfrifoldeb i ymdrin â'r rhwymedigaethau a adawyd ar ôl.
Yn wrthnysig, rydym yn cael ein gadael deirgwaith yn waeth ein byd, oherwydd hyd yma mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwario ar domenni glo, ac, wrth gwrs, mae'n dal yn ôl y £375 miliwn o gyllid rhanbarthol a ddylai ddod i Lywodraeth Cymru. Felly, mae Llywodraeth y DU yn barod, fel y mae'r Senedd wedi clywed yn y datganiad blaenorol y prynhawn yma, i ddarparu cymorth ariannol drwy ei chronfeydd codi'r gwastad neu ar gyfer meysydd sy'n amlwg wedi'u datganoli, cyflwyno deddfwriaeth newydd i wneud hyn a pheryglu dyblygu a gwerth gwael am arian a hynny wrth dorri ei haddewid o ran ei rhwymedigaethau i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i fynd i'r afael â phroblemau fel diogelwch tomenni glo sy'n rhagflaenu datganoli.
Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r her hon. Rydym ni eisoes yn cyflawni ein cyfrifoldebau dros ddiogelwch tomenni glo. Ar ôl llithriad Tylorstown, sefydlodd y Prif Weinidog dasglu diogelwch tomenni glo ar unwaith, sy'n bwrw ymlaen â rhaglen sylweddol o waith diwygio gweithredol a deddfwriaethol. Gan weithio gyda phartneriaid yn yr Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae archwiliadau rheolaidd bellach ar y gweill ac mae gwaith cynnal a chadw wedi dechrau. Gan weithio gyda ffora cydnerthedd lleol, mae mesurau ymateb brys bellach ar waith. Fel Llywodraeth, rydym ni hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth diogelwch tomenni glo newydd yn ystod y Senedd hon. Y llynedd, gofynnwyd i Gomisiwn y Gyfraith gynnal adolygiad o fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Bydd yr adolygiad hwn yn darparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer datblygu deddfwriaeth newydd i Gymru ar domenni glo, yr ydym wedi ymrwymo i'w chyflawni yn ystod y Senedd hon.
Fodd bynnag, nid yw hon yn her y gallwn ni fynd i'r afael â hi ar ein pennau ein hunain, ac ni ddylem ni orfod gwneud hynny ychwaith. Roeddwn i'n falch o weld y Prif Weinidog yn tynnu sylw at yr angen i weithredu ar lo yn ei araith y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd y mis hwn. Rwyf hefyd yn falch o nodi bod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn darparu cymorth gwerth £44 miliwn i helpu gwledydd datblygol y byd i reoli diwydiannau echdynnol fel glo yn gyfrifol ac yn atebol.
Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn: mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i Deyrnas Unedig sy'n gweithio ar gyfer ei holl rannau cyfansoddol. Os yw Llywodraeth y DU yn rhannu ein hymrwymiad i'r undeb, yna dyma'r her a dyma'r amser iddyn nhw gymryd eu cyfran o'r cyfrifoldeb am etifeddiaeth hanesyddol cloddio am lo yn y DU.
Nid tasg fach yw hon—o na fyddai'n dasg fach. Gall y gost o adfer un domen yn unig, lle mae angen gwaith helaeth, fod yn £40 miliwn, ac mae gennym dros 2,100 o domenni yng Nghymru. Rydym ni'n dechrau gyda'r safleoedd mwyaf heriol, wrth gwrs. Fodd bynnag, rydym yn amcangyfrif y bydd angen o leiaf £600 miliwn arnom dros y degawd a hanner nesaf. Mae angen i Lywodraeth y DU ein hariannu i fuddsoddi yn awr, tra bod amser o hyd, er mwyn osgoi llawer mwy o gost ac effaith ar bobl a chymunedau.
Rwyf eisiau dweud nad yw'n ddrwg i gyd. Mae cyfleoedd mawr hefyd. Fe'm calonogwyd i gan fy nghyfarfod diweddar â Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys, a ddywedodd wrthyf ei fod yn rhannu angerdd Llywodraeth Cymru dros fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'r Prif Ysgrifennydd yn arwain adolygiad o wariant tair blynedd cynhwysfawr Llywodraeth y DU lle mae mynd i'r afael â newid hinsawdd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol wedi'u hamlygu fel blaenoriaeth uchel. Os gallwn gytuno ar ffordd ymlaen i fynd i'r afael â'r her gyffredin hon a rheoli'r risg gynhenid, mae cyfle i ni ddangos ein hymrwymiad ar y cyd wrth i ni edrych ymlaen at gynnal COP26 yn y DU. Ac ni fu erioed yn bwysicach i ni gydweithio ar draws y DU ac ar draws y byd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur a'i ganlyniadau.
Mae tomenni glo, yn ôl eu natur, yn eithaf llythrennol yn storfeydd sylweddol o garbon ffosil. Maen nhw'n rhan allweddol o'n treftadaeth ddaearegol. Mae llawer ohonyn nhw yn gynefinoedd i blanhigion ac anifeiliaid. Wedi'u hadfer a'u gwneud yn ddiogel, mae ganddyn nhw y potensial i fod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol ar gyfer natur a choedwig genedlaethol Cymru. Bydd y buddsoddiad y mae ei angen yn dod â manteision economaidd, sgiliau newydd a mwy o gyflogaeth i gymunedau ein Cymoedd. Bydd yn gwella'r amgylchedd i bobl sy'n byw yno ac yn rhoi cyfran o gyfoeth cenedlaethol yn ôl i'r rhai hynny y gwnaeth eu rhagflaenwyr helpu i'w greu.
Mae'r ffeithiau'n glir. Mae newid hinsawdd, sy'n arwain at achosion o law trwm, yn bygwth ansefydlogi tomenni glo. Mae etifeddiaeth ddiwydiannol cloddio am lo yn cael effaith anghymesur arnom ni yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn dangos y ffordd, gyda'r cyllid ysgogi y mae'n ei ddarparu i hen ardaloedd cloddio ar draws yr Unol Daleithiau. Mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r her, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny hyd yma. Dyna pam yr wyf yn galw ar yr Aelodau i wrthwynebu gwelliant y Ceidwadwyr a chefnogi'r cynnig. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewidion a chyflawni ei chyfrifoldebau'n llawn, drwy weithio gyda ni a chytuno ar raglen ariannu i fynd i'r afael â her adfer, adennill ac ail-lunio safleoedd tomenni glo yn y tymor hir, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Senedd.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn sefyll i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ac, fel y dywedwyd, dim ond ar ôl trychineb dychrynllyd Aberfan yn 1966 y deddfwyd Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969. Hanner canrif yn ddiweddarach, dim ond ar ôl storm Dennis ym mis Chwefror 2020 a llithriad tomen lo yn Nhylorstown y gwahoddwyd Comisiwn y Gyfraith yn ffurfiol yn awr i gynnal adolygiad annibynnol o'r ddeddfwriaeth berthnasol a darparu argymhellion ar gyfer Bil yn y dyfodol. Mae'r ffaith ei bod yn cymryd trychinebau i ni sylweddoli nad yw'r ddeddfwriaeth yn ddigon cadarn nac yn addas at ei diben yn bwynt y dylem ni i gyd fod yn adlewyrchu arno yma heddiw. Mae ein cymunedau ni yn haeddu Senedd Cymru nad yw'n adweithiol ond yn rhagweithiol yn ei dull o ymdrin â materion mor bwysig. Maen nhw'n haeddu Senedd Cymru sy'n gwneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu ein cymunedau a'u pobl. Ond maen nhw hefyd yn haeddu Llywodraeth Cymru sy'n onest am ei chyfrifoldebau ei hun.
Dirprwy Lywydd, cynghorwyd y Prif Weinidog yn ysgrifenedig gan y Gwir Anrhydeddus Stephen Barclay AS ar 5 Gorffennaf 2021, fod
'rheoli tomenni glo yng Nghymru yn fater datganoledig ac felly nid yw'n un y byddai Llywodraeth y DU yn disgwyl darparu cyllid ychwanegol ar ei gyfer.'
Yn wir, mae'r Prif Weinidog yn gwybod yn iawn bod rheoli tomenni glo wedi'i ddatganoli, oherwydd mae hyd yn oed wedi'i gynnwys yn ei raglen lywodraethu, sy'n gwneud addewid sydd i'w groesawu i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael ag etifeddiaeth canrifoedd o gloddio a sicrhau diogelwch tomenni glo. Felly, rwy'n gofyn i'r sefyllfa gael ei hegluro i adlewyrchu hynny. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli unrhyw gostau hirdymor sy'n gysylltiedig â sicrhau diogelwch ein tomenni glo yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli y gallai'r problemau etifeddol sy'n ymwneud â thomenni glo yr ydym yn eu hwynebu gostio tua £0.5 biliwn dros gyfnod o 10 mlynedd. Fodd bynnag, nid oes rheswm pam na ellir ariannu hynny. Er enghraifft, ar gyfer 2021-22, mae setliad adolygu o wariant cyffredinol Llywodraeth Cymru yn darparu £123 y pen am bob £100 o gyllid cyfatebol yn Lloegr. Felly, rwy'n diflasu braidd erbyn hyn yn fy nhrydydd tymor i gael gwybod yn gyson mai Llywodraeth y DU sy'n penderfynu. Yn wir, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn tua £1 biliwn yn fwy yn 2021 na'r hyn y cytunwyd arno fel cyllid teg i Gymru o'i gymharu â Lloegr, felly gallwch fforddio gymryd cyfrifoldeb am yr hyn sy'n fater datganoledig.
Fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth y DU yn barod i gydweithredu i sicrhau bod deiliaid tai a busnesau yn gwybod bod y risg yn cael ei chymryd o ddifrif. Ni ddylai hyn fod yn bêl-droed wleidyddol. Ym mis Rhagfyr 2020, derbyniodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gais Llywodraeth Cymru am £31 miliwn i helpu gyda'r effeithiau nas rhagwelwyd—[Torri ar draws.]—Fe wnaf dderbyn ymyriad os dymunwch chi—[Torri ar draws.]—iawn—gydag effeithiau annisgwyl storm Dennis, a oedd yn cynnwys £9 miliwn i atgyweirio tomenni glo bregus ledled Cymru.
Mae Llywodraeth y DU yn parhau i sicrhau bod arbenigedd yr Awdurdod Glo ar gael i gefnogi'r gwaith o sicrhau bod tomenni yn ddiogel, ac wrth gwrs, ym mis Chwefror 2020, sefydlwyd tasglu a gadeiriwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weinidog Cymru i drafod a chydlynu'r gwaith. Gallem ni weld glaw trwm yng Nghymru y gaeaf hwn, ac o'r herwydd, byddwn i'n falch o gael y wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau rhag y tomenni a ystyrir yn risg uchel. Nawr, gwnaed £180,000 ar gael y llynedd ar gyfer treialu offer synhwyro, sy'n golygu bod gan leoliadau fel tomen y National, Wattstown, systemau monitro telemetrig amser real, sy'n cadw llygad ar symudiad yn y ddaear a lefelau dŵr. Nod hwnnw oedd cynnwys mwy o domenni yn y treialon. A yw hyn wedi'i gyflawni? A fydd rhagor o systemau monitro telemetrig amser real yn cael eu cyflwyno? Y gaeaf diwethaf, archwiliodd yr Awdurdod Glo ac awdurdodau lleol bron i 300 o domenni risg uchel, gan nodi gwaith cynnal a chadw pwysig a brys iawn. Felly, fy nghwestiwn: faint o'r tomenni glo yr oedd angen i waith ddechrau o fewn chwech i 12 mis sydd wedi gweld y targed hwnnw'n cael ei gyflawni?
A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Iawn. Rwy'n deall mai un domen lo yw'r ateb hwnnw. Felly, rydym ni'n cytuno bod diogelwch ein cymunedau yn hollbwysig, felly er na allaf gefnogi'r cynnig gwreiddiol, gallaf eich sicrhau chi ac unrhyw un sy'n eistedd yn y Senedd hon, fod Ceidwadwyr Cymru eisiau gweld pob lefel o Lywodraeth yn parhau i gydweithredu i amddiffyn Cymru rhag unrhyw drychinebau posibl pellach. Diolch.
Mae ein tirweddau'n gwisgo creithiau gorffennol Cymru. Pennau pyllau, traphontydd yn dadfeilio, pontydd sy'n arwain at unman, a thomenni glo sy'n staenio ochrau ein mynyddoedd, tomenni o gyfnod o huddygl a thwrw, o danau gwyllt dan ddaear, a bywydau wedi'u claddu yn y pridd. Talodd ein Cymoedd yn hir ac yn galed am ysbail cloddio am lo, ac mae'n wallgof meddwl, Dirprwy Lywydd, na chafodd deddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch tomenni ei chyflwyno hyd yn oed tan ar ôl trychineb Aberfan. A hyd yn oed ar ôl y digwyddiad dinistriol a chywilyddus hwnnw—adeg a ddylai fod wedi achosi ymddiswyddiadau, newid sylfaenol a symud ar raddfa fawr y gwastraff a'r sbwriel hwn—ni chafodd y tomenni eu tynnu o'r mynyddoedd eraill yn ein Cymoedd. Pe byddai'r tomenni hynny wedi bod yn Surrey neu yn Swydd Bedford, rwy'n amau a fydden nhw wedi cael eu gadael i anharddu'r gorwel. Ond yng Nghymru, yn Bedwas, Penalltau, Penydarren, Bedlinog, mae cymunedau'n gorwedd yng nghysgod yr erchylltra hyn, gan deimlo'n bryderus bob tro y mae'n bwrw glaw, oherwydd po fwyaf o law a gawn ni yn awr mae'n golygu y gallai'r tomenni hynny fynd yn fwy ansefydlog fyth. Yn 2020, damwain hapus oedd hi nad oedd neb yn byw ar lwybr tirlithriad Tylorstown. A ydym ni eisiau aros i weld a fydd tynged yn parhau i fod ar ein hochr ni?
Dirprwy Lywydd, roedd cloddio dwfn yn golygu bod perygl bob amser yn bresennol. Y mwyaf y gallen nhw ei wneud oedd lleihau'r perygl hwnnw, ond daeth y diffyg pan roddwyd yr un meddylfryd yn gyfrifol am ddiogelwch uwchben y ddaear, gan drin ein trefi fel tomen sbwriel. Soniais am ddeddfwriaeth; wel, mae'r gyfraith sydd gennym ni yn gwbl ddiffygiol. Nid oes braidd dim rheolaeth, dim cysondeb ag asesiadau risg, dim rhwymedigaeth i archwilio'r tomenni na'u cadw'n ddiogel, a dim ffordd o orfodi tirfeddianwyr i weithredu os oes perygl. Ystyrir bod saith deg o domenni yng Nghaerffili yn rhai risg uchel; mae gan 59 ym Merthyr ac 16 ym Mlaenau Gwent yr enw drwg hwnnw, ac mae'r bobl hynny yn San Steffan yn dal i ddadlau am y gost. Pwy fydd yn talu i wneud y tomenni hyn yn ddiogel? A ddylai wir fod yn gyfrifoldeb i'r awdurdodau lleol o gymunedau a chafodd eu hysbeilio am eu glo ac na welodd dim o'r elw yn cael ei fuddsoddi'n ôl? Rhwygwyd y cyfoeth o'r ddaear o dan eu traed. Sut y gall San Steffan osgoi'r cywilydd hwnnw? Ni ddylai fod wedi cymryd y ddamwain a fu bron a digwydd yn Nhylorstown i orfodi'r Llywodraeth, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i sylweddoli eu bod yn berygl marwol, nid yn ein llwybr ni, ond yn hongian dros ein pennau. Am ba hyd y bydd pobl Bedwas, Penyard, Nant-yr-Odyn, Hengoed yn gorfod byw gyda'r teimlad anesmwyth hwnnw yn hongian drostyn nhw? Pa mor hir y bydd yr anghyfiawnder hwn yn hongian yn yr aer?
Byddai unrhyw un a edrychodd ar eiriad y cynnig heddiw yn meddwl tybed beth oedd hanfod yr holl ffwdan, oherwydd nid yw'n ymddangos bod llawer o wahaniaeth rhwng y gwelliant a chynnig y Llywodraeth, ond, os gwrandewch chi ar eiriau'r Gweinidog, yr hyn y mae hi'n sôn amdano yw Llywodraeth y mae angen iddi fyw o fewn ei modd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru fyw o fewn ei modd yn hyn. Yn hanesyddol, pan fo gennym ni faterion a oedd yn treiddio o'r cyfnod cyn datganoli, rwy'n credu ei bod yn iawn i Lywodraeth y DU gymryd ei swyddogaeth o ddifrif wrth ddatrys y materion hynny. Mae hwn yn fater, fel y mae Delyth eisoes wedi'i ddweud, mae hyn yn rhywbeth a oedd yn bodoli ymhell cyn i ddatganoli ddod i'r amlwg, ac, er mwyn mynd i'r afael â'r tomenni hynny yn fy etholaeth i ac adfer y tomenni hynny, mae angen swm sylweddol o arian cyhoeddus, sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i amcangyfrif.
Rwyf yn cymryd o ddifrif y materion ym Medwas, er enghraifft. Rwyf wedi cyfarfod â'r awdurdod lleol a gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i siarad am nifer y tomenni yn fy etholaeth i. Felly, mae gennym dros 20 o domenni sy'n eiddo i awdurdodau lleol yn etholaeth Caerffili, ac mae dros 20 o domenni preifat, ac, yn eu statws presennol, nid yw mor frawychus ag y mae'n swnio, y rhif hwnnw, oherwydd mae rhai wedi'u saernïo a'u tirlunio, eu hadfer—mae parc gwledig Penallta wedi'i leoli ar un—ac mae rhai sydd heb eu hadfer. Mae'r tomenni sy'n eiddo i'r awdurdod lleol yn rhan o drefn archwilio a chynnal a chadw sy'n seiliedig ar risg, sy'n fwy na bodloni cyfrifoldeb statudol bwrdeistref sirol Caerffili. Felly, er enghraifft, heddiw, mae Bedwas yn cael ei arolygu'n fisol, ac, heddiw, byddwn i'n dychmygu, a'r tywydd fel y mae, y bydd cyngor Caerffili yn archwilio tomen Bedwas heddiw. Rwyf wedi siarad â llawer o bobl ym Medwas, a'r ymateb cyffredinol yw: 'Mae angen i ni adael y domen honno fel y mae hi. Dydyn ni ddim eisiau ei chyffwrdd.' Dyna'r math o ymateb yr ydym yn ei gael yn y gymuned. Maen nhw'n gwybod y byddai ei hadfer yn costio swm enfawr o arian, sydd ar hyn o bryd y tu hwnt i fodd Llywodraeth Cymru ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU ei ddarparu. Mae'r trefnau archwilio hynny'n parhau.
Nid oes unrhyw bryderon ynghylch diogelwch ag unrhyw un o domenni yr awdurdod lleol—tomenni cyngor Caerffili—ar hyn o bryd, hyd yn oed os ydyn nhw yn y categori risg uwch hwnnw, ac, fel y dywedais i, cânt eu harolygu'n fisol. Ond mae cynnal a chadw'r tomenni preifat yn bryder, oherwydd, o dan Ddeddf tomenni 1969, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr ydyw. Wrth drafod hyn gyda chyngor Caerffili, dysgais y gallan nhw gamu i mewn o dan eu pwerau brys pan fo ganddyn nhw y pryderon hynny, ond mae hwnnw'n faes amwys o ran yr hyn y gallan nhw ei wneud a sut y gallen nhw gamu i mewn. Felly, yn sicr mae angen eglurder arnom ni yn y fan yna.
Ond, yn y bôn, fy nadl i fyddai bod hwn yn fater o'r cyfnod cyn datganoli, ac, yn yr un modd â gwaed halogedig, er enghraifft, mae angen i Lywodraeth y DU gymryd y camau sy'n dal yn gyfrifoldeb iddi hi, ac maen nhw'n ddiffygiol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, wrth wrando ar y Gweinidog, rwy'n credu bod rhai o'r sgyrsiau y mae hi wedi dweud ei bod wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU wedi fy nghalonogi. Rwy'n mawr obeithio eu bod yn dwyn ffrwyth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd llawer iawn o gamau ac mae cyngor Caerffili yn gwneud llawer iawn o waith, ond, heb y mewnbwn sylweddol hwnnw gan Lywodraeth y DU, ni fydd hynny'n ddigonol yn y tymor hirach. Felly, edrychwn ymlaen at glywed mwy gan y Gweinidog am y cynnydd y mae hi'n ei wneud yn y trafodaethau hynny.
Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Cyllid.
Yn y Senedd flaenorol, dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Cyllid ei bod yn ceisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Mewn ymateb i'r cais hwnnw, dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu'n ddigonol i reoli costau yn y dyfodol fel rhan o'i gwaith cynllunio cyllideb arferol. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod hwn yn faes lle mae Cymru wedi cael ei heffeithio'n anghymesur, a nifer yr achosion sy'n ymwneud â thomenni glo yn digwydd ar gyfradd frawychus. Mae gan Gymru gyfran sylweddol uwch o domenni glo o'i chymharu â gweddill y DU. Oherwydd maint y buddsoddiad hirdymor sydd ei angen, rydym ni'n credu mai fformiwla Barnett yw'r dull cywir ar gyfer ymdrin ag ariannu'r mater etifeddiaeth hwn.
Rwy'n falch bod y Gweinidog yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am sicrwydd cynnar a mwy o dryloywder o ran cyhoeddiadau am wariant er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer y dyfodol yn y maes hwn. Bydd adolygiad gwariant Llywodraeth y DU a chyllideb yr hydref yn dod i ben ar 27 Hydref, ac er ein bod yn cefnogi ymdrechion y Gweinidog, mae hefyd yn hanfodol bod gan y pwyllgor ddealltwriaeth glir o'r cyllid sydd ar gael fel y gallwn ymgymryd â gwaith craffu ariannol o ansawdd. Byddem hefyd yn ailadrodd argymhelliad blaenorol bod Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo tryloywder cyllid drwy gyhoeddi ei chyfrifiadau ar symiau canlyniadol o gyhoeddiadau gwariant y DU.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae gan y mater hwn bwysigrwydd hanesyddol penodol yng Nghymru. O ystyried ein treftadaeth a'n daearyddiaeth unigryw, mae angen mynd i'r afael â hyn fel mater o frys. Felly, rydym yn cefnogi ymdrechion y Gweinidog. Fodd bynnag, ni ddylai fod ar draul tryloywder a chraffu priodol. Diolch yn fawr.
Am dros ganrif, roedd glo Cymru'n pweru'r byd. O Drehafod hyd at Faerdy, Trebanog draw i Dreherbert, gweithiodd dynion a menywod eu bysedd at yr asgwrn i wneud y wlad hon yn gyfoethog. Rydym yn falch o'r cyfraniad a wnaeth ein cyndadau yn y Rhondda, ochr yn ochr â'n cymdogion, fel rhan o ardal ehangach meysydd glo de Cymru. Mae hyn yn gwbl groes i Lywodraethau Torïaidd olynol y DU, sydd dro ar ôl tro wedi gwneud penderfyniadau gwleidyddol ymwybodol, bwriadol sydd wedi—ac sy'n dal i—effeithio'n sylweddol ar fywydau fy etholwyr yn Rhondda.
Y llynedd, gwelsom olygfeydd brawychus yn Nhylorstown a Wattstown, gyda thirlithriadau mewn hen domenni glo. Mae'n amlwg nad yw'r amddiffynfeydd a roddwyd ar waith cyn newid hinsawdd yn mynd i fod yn ddigon da ar gyfer y dyfodol. Heb ymyrraeth ystyrlon, byddwn yn gweld hyn yn digwydd i domenni glo eraill ledled Cymru, gan roi ein cymunedau mewn perygl. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i arian dros y tymor byr hwn i unioni'r broblem hon, ac mae cynlluniau uchelgeisiol ar waith i fod â Deddf diogelwch tomenni glo i Gymru ar y llyfr statud. Ond mae angen rhaglen liniaru, adfer ac addasu at ddibenion gwahanol hirdymor arnom wedi'i chydweithredu gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Dylai hyn, mae'n siŵr, fod yn her a rennir. Mae pedwar deg y cant o holl domenni glo'r DU wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae'n rhwystredig ein bod wedi gorfod ymladd y Llywodraeth Dorïaidd bob cam o'r ffordd i gael yr arian yr ydym ei angen ac yn ei haeddu, ond nid yw'n syndod. Nid oes ond angen i ni wrando ar y datganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi yn gynharach heddiw i wybod bod Cymru'n rhy aml yn ôl-ystyriaeth i'r Llywodraeth Dorïaidd. Mae'r adolygiad o wariant yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU unioni hyn. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr heddiw i gefnogi'r cynnig gwreiddiol i sicrhau ein bod o'r diwedd yn gweld camau cadarnhaol, nid geiriau yn unig, gan Lywodraeth y DU.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n fy nigalonni i glywed y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud, wythnos ar ôl wythnos, eu bod yn credu bod Cymru rywsut yn cael ei gorariannu, neu hyd yn oed yn cael ei hariannu'n ddigonol, a byddwn i'n gofyn i Geidwadwyr Cymru wneud eu hymchwil eu hunain ac ystyried rhai o'r ffeithiau, y ffigurau, y cyfrifoldebau. Edrychwch ar danariannu hanesyddol y rheilffyrdd yng Nghymru, er enghraifft. Gofynnwch i chi'ch hun a allwch chi fod yn fodlon â hynny. Edrychwch ar y ffordd y mae HS2 yn cael ei gategoreiddio gan Lywodraeth y DU fel cynllun Cymru a Lloegr, er bod ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn dangos y bydd yn niweidiol i Gymru, ac yn enwedig y de-orllewin, a gofynnwch i chi'ch hun a ydych chi'n fodlon â hynny. Ac ystyriwch a ydych chi'n fodlon na ddylai'r pwyntiau rheoli ffiniau newydd ddenu unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, er eu bod yn newydd a heb eu hariannu o ganlyniad i Brexit. Ystyriwch a ydych chi'n credu y dylai porthladdoedd rhydd yng Nghymru ddenu dim ond £8 miliwn o gyllid, o'i gymharu â phob porthladd rhydd yn Lloegr sy'n cael £25 miliwn. Os ydych chi'n hapus ac yn fodlon ar hynny i gyd, eglurwch chi hynny i'ch etholwyr. Ond os ydych chi, ar ôl ystyried y ffeithiau a'r cyllid a'r cyfrifoldebau, mor ddig ag yr ydym ni ar y meinciau hyn, yna gwnewch rywbeth am hyn a gweithiwch gyda ni i ddylanwadu ar eich cydweithwyr yn San Steffan i wneud hyn yn iawn.
Ni chafodd fformiwla Barnett erioed ei gynllunio ar gyfer hyn; mae £600 miliwn dros 10 i 15 mlynedd yn swm enfawr o gyllid, ac o ble y bydd yn dod? Bydd yn dod o ysgolion, bydd yn dod o ysbytai, bydd yn dod o gynnal a chadw ffyrdd a bydd yn dod o dai cymdeithasol. Nid yw'n dod o'r unlle.
Rwyf eisiau cofnodi a rhoi ychydig o eglurder ynghylch y £31 miliwn a ddisgrifiwyd hefyd. Felly, roedd hwnnw'n swm o arian a negodwyd gennyf i gyda Llywodraeth y DU ar gyfer sefyllfa pe byddai Llywodraeth y DU o'r farn na allem ni fforddio gwario hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, yna byddai'n darparu'r cyllid ychwanegol. Roedd yn fath o warant, ac roedd yn ddefnyddiol iawn gan ei fod yn caniatáu i ni gael y sicrwydd hwnnw a'r hyder hwnnw i symud ymlaen a gwneud cynlluniau a buddsoddiadau yn syth ar ôl hynny. Fodd bynnag, bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol y bu gan Lywodraeth Cymru gyllid sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol o ganlyniad i gyhoeddiadau hwyr am symiau canlyniadol COVID gan Lywodraeth y DU a hefyd ein rheolaeth well o gyllid yma yng Nghymru o ran profi, olrhain, diogelu a chyfarpar diogelu personol, er enghraifft. Ac, o'r herwydd, cymerodd Llywodraeth y DU y £31 miliwn hwnnw o'r gronfa COVID, gan felly beidio â darparu'r cyllid ychwanegol hwnnw. Felly, rwy'n credu ei bod yn werth cael y ffeithiau am hynny.
Yr hyn nad wyf eisiau ei wneud heddiw yn y trafodaethau hyn yr ydym ni wedi bod yn eu cael am domenni glo yw achosi braw, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn yn fy marn i, oherwydd rydym ni wedi bod yn cael dealltwriaeth dda iawn a gwell o'n tomenni glo ledled Cymru, ac erbyn hyn mae gennym ddarlun llawer, llawer gwell o'r nifer a'u statws presennol, ac mae'n amlwg ein bod wedi sefydlu trefn archwilio a chynnal a chadw gadarn drwy weithio gyda'r Awdurdod Glo—Awdurdod Glo'r DU—ac awdurdodau lleol. Mae'r rhaglen arolygu yn sicrhau bod y tomenni hynny'n cael eu harchwilio'n rheolaidd a bod unrhyw waith cynnal a chadw yn cael ei nodi a'i wneud o fewn amserlenni penodol i liniaru cymaint o risgiau â phosibl. A bydd y cylch nesaf o arolygiadau gaeaf ar y tomenni risg uwch yn dechrau'r wythnos nesaf a bydd yn cael ei gynnal ar y cyd gan yr Awdurdod Glo ac awdurdodau lleol. Felly, rwyf eisiau rhoi'r sicrwydd hwnnw i gymunedau a allai fod wedi'u hanesmwytho gan y sylw sydd ar domenni glo ar hyn o bryd. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn treialu treialon technolegol newydd ar domenni dethol, gan dreialu, er enghraifft, offer synhwyro sy'n cael ei roi ar y tomenni i fonitro symudiad, yn ogystal â delweddau lloeren i fesur lefelau lleithder pridd o bell islaw'r ddaear. Ac os oes unrhyw un yn pryderu am domen yn eu hardal, gan gynnwys y systemau draenio, yna mae llinell gymorth rhadffôn y gallant ei ffonio, a chyfeiriad e-bost, ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac yn dilyn y stormydd a'r tirlithriadau yn ôl yn Nhylorstown a Wattstown, gwnaethom roi llythyr o gysur i awdurdodau lleol fel y gallent fwrw ymlaen ac ymgymryd â'r gwaith diogelwch uniongyrchol hwnnw heb orfod poeni o ble y byddai'r arian yn dod, ac rwy'n credu bod awdurdodau lleol hefyd yn croesawu hynny.
Felly, gadewch i ni adlewyrchu yn olaf fod y cymunedau hyn wedi gwneud aberth sylweddol o ran y diwydiant glo, yn enwedig drwy'r tomenni glo ond hefyd mewn cymaint o ffyrdd eraill o ran yr effeithiau ar iechyd y mae'r cymunedau hyn yn dal i'w teimlo, ac rwy'n credu ei bod yn bryd cydnabod bod hyn yn rhagflaenu datganoli ac mae'n bryd, mewn gwirionedd, dangos ein hymrwymiad ar y cyd, gyda Llywodraeth y DU, i'r cymunedau hyn.
Cefais fy nghalonogi mewn gwirionedd gan sylwadau Darren Millar heddiw yn natganiad y Prif Weinidog ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Dywedodd,
'Rwyf i a fy nghyd-Aelodau ar feinciau Ceidwadwyr Cymru yn cytuno'n llwyr fod angen dull cydweithredol ar y cyd i fynd i'r afael â'r pryderon... o gofio eu bod yn... etifeddiaeth o'r cyfnod cyn datganoli.'
Felly, roedd Darren Millar yn cydnabod bod hwn yn fater cyn datganoli, ac roedd Darren Millar yn cydnabod bod gan Lywodraeth y DU ran i'w chwarae yn hyn hefyd. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle yn awr i bob un ohonom ni, yn drawsbleidiol, anfon neges gref iawn at Lywodraeth y DU. Siawns nad yw hyn yn rhywbeth y byddai pobl Cymru, ac yn enwedig yn y cymunedau glofaol hynny, yn disgwyl i ni ei wneud ac yn haeddu i ni ei wneud ar sail drawsbleidiol. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.