Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 29 Medi 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser i fi gael cyflwyno'r ddadl fer yma y prynhawn yma ar y testun 'Cyhoeddi adroddiad Holden—Amser am dryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru'. Er gwybodaeth i'r Llywydd, dwi wedi cytuno i roi munud o fy amser i, yn gyntaf, Rhun ap Iorwerth, wedyn Mark Isherwood, wedyn Darren Millar, ac yn olaf Mabon ap Gwynfor.