Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 29 Medi 2021.
Wel, fe welwch nifer o bethau yr ydym eisoes wedi'u gwneud, er enghraifft y gwaith sydd ar y gweill ar gefnogi diwydiannau allforio—y cynllun gweithredu allforio sydd eisoes ar waith. Ond gallwch ddisgwyl clywed mwy gennyf ynglŷn â bwrw ymlaen â'r genhadaeth economaidd dros y mis nesaf. Felly, ni fydd raid i chi aros llawer mwy am fanylion ein huchelgais a'r modd y byddwn yn gweithio gyda busnesau, fel rwy'n dweud, ar adeg sy'n dal i fod yn heriol, ond edrychwn ymlaen at adfer ar ôl y pandemig.