Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:43, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, oes, mae angen inni weld a chlywed mwy gennych, Weinidog, a gweld beth yw eich strategaeth yn y dyfodol wrth inni ddod allan o'r pandemig. Nawr, Weinidog, mae adroddiad Mynegai Ffyniant y Deyrnas Unedig ar gyfer 2021 yn dweud bod rhai ardaloedd o'r DU

'yn wynebu heriau arbennig o sylweddol o ran cynhyrchiant, cystadleurwydd a deinamigrwydd', ac yn anffodus, mae Cymru'n un o'r ardaloedd hynny.

'Yn nodweddiadol, mae cyfraddau goroesi busnesau yn yr ardaloedd hyn yn isel, llai o fusnesau uwch-dechnoleg, a fawr o fusnesau newydd yn dechrau.'

Dangosodd yr un adroddiad fod gan fusnesau yng Nghymru

'Amgylchedd Buddsoddi gwan gyda chyflenwad isel o gyfalaf, fawr o alw am ehangu, ac mae 31% o brosiectau wedi'u hoedi oherwydd diffyg cyllid', sef, yn anffodus, y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig. Nawr, mae gwir angen arweiniad ar economi Cymru, ac eto, ers yr etholiad, ychydig iawn a welsom gan Lywodraeth Cymru o ran ei hymrwymiad i economi Cymru, ac mae busnesau ledled Cymru yn haeddu llawer gwell. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym pa syniadau newydd sydd gan Lywodraeth Cymru i greu'r amodau ar gyfer menter yma yng Nghymru? Ac a allwch ddweud yn glir wrth fusnesau yng Nghymru heddiw beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau amgylchedd buddsoddi Cymru fel bod ein busnesau yma yng Nghymru yn cael cyfleoedd i ehangu a thyfu, yn enwedig wrth inni gefnu yn awr ar y pandemig COVID?