Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 29 Medi 2021.
Rwy'n cydnabod y gall awyr dywyll fod yn rhywbeth a fydd yn denu pobl i ddod i Gymru, pobl na fyddent fel arall yn gwneud hynny ac mewn gwirionedd, mae'n ased i ni hefyd. Felly, ceir heriau i ni o ran diogelu statws awyr dywyll lle mae'n bodoli. A dylwn ddweud fy mod yn cydnabod bod hen safle'r Tŵr eisoes yn cael effaith gadarnhaol sylweddol fel rhan o'n heconomi dwristiaeth. Felly, mae cynigion pellach ar y safle hwnnw'n bethau y byddwn yn croesawu eu gweld yn fanylach. Rwyf wedi cael cyfle i fwynhau rhywfaint o'r hyn sydd eisoes ar gael, ac edrychaf ymlaen at ymweld eto gyda fy nheulu yn y dyfodol, ond rwy'n credu bod hwn yn faes lle gallwn gael mwy i'w ychwanegu at ein heconomi ymwelwyr sydd eisoes yn llwyddiannus yma yng Nghymru.