Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 29 Medi 2021.
Cefnogodd Llywodraeth Cymru y broses o greu FinTech Cymru yn 2019. Mae'n gorff o aelodau arbennig o weithgar o fyd diwydiant ac mae'n cyfarfod yn rheolaidd â Ron Kalifa, Dinas Llundain a thîm City Finance i fonitro gweithrediad a chyfleoedd adroddiad Kalifa ar gyfer y sector technoleg ariannol yma yng Nghymru.