1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 29 Medi 2021.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â denu buddsoddiad ynni gwyrdd i Ynys Môn? OQ56913
Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i drafod cyfrifoldebau portffolio trawsbynciol. Cyfarfûm â hi ddoe gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae ein swyddogion yn mynd ati ar y cyd i ganfod cyfleoedd ar gyfer denu buddsoddiad mewn ynni gwyrdd ar yr ynys a rhanbarth gogledd Cymru yn ehangach, gan gynnwys trafodaethau â rhanddeiliaid allweddol ar gyfleoedd ynni gwynt ar y môr a manteision cymunedol o fuddsoddiadau ynni lleol.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb. Dwi'n falch o glywed cyfeiriad at ynni gwynt o'r môr. Mae yna gyfle economaidd go iawn i Ynys Môn, dwi'n meddwl, o gynlluniau ynni gwynt arfaethedig BP ym môr Iwerddon, ffermydd gwynt Mona a Morgan. Dwi'n eiddgar iawn i sicrhau mai Caergybi bydd y porthladd i wasanaethu datblygiad Mona. Mi fyddai'n creu swyddi a rhoi sicrwydd hirdymor, ond mae angen buddsoddiad yn y porthladd i hynny allu digwydd. Mae BP yn dweud, gyda llaw, nad oes rhaid cael statws porthladd rhydd er mwyn gwireddu hyn, ond, os ydy o'n gallu bod yn ddefnyddiol, mi fyddai'n dda gweld Llywodraeth Prydain yn rhoi'r un arian i borthladdoedd rhydd yng Nghymru ag y maen nhw'n rhoi i Loegr.
Ond yn bwysicach, dwi'n credu bod angen i Lywodraeth Prydain gyfrannu o'r pot £160 miliwn sydd ganddyn nhw i ddatblygu porthladdoedd ar gyfer prosiectau ynni. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno efo fi i bwyso am gyfran o'r cyllid yma i Gaergybi, ac a wnaiff o ymrwymo i roi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi'r datblygiad yna ym mhorthladd Caergybi i ddatblygu'r prosiect yma y byddai o fudd economaidd mawr ar gyfer yr economi leol a'r economi Gymreig?
Ie, rwy'n awyddus iawn inni wneud mwy na manteisio'n unig ar y cyfle i gynhyrchu mwy o ynni cynaliadwy, ond ein bod hefyd yn gweld y budd economaidd go iawn yn cael ei gadw yng Nghymru. Dyna pam ein bod eisoes yn cael trafodaethau gydag ystod o bobl a fydd yn rhedeg y llinellau newydd a ganiatawyd i geisio sicrhau bod y cadwyni cyflenwi mor lleol â phosibl. Dylai hynny fod o fudd i borthladdoedd ledled Cymru, gan gynnwys Caergybi.
Cefais sgwrs gydag arweinydd Ynys Môn yr wythnos diwethaf ynglŷn â chyfleoedd ar yr ynys, lle mae gennym agenda nad yw'n gwrthgyferbynnu â lle mae'r cyngor yn gweld eu hunain, a'r hyn y maent am ei wneud yn lleol hefyd. Felly, ni chredaf fod hwn yn destun gwrthdaro; mae'n ymwneud â gweld a ydym yn mynd i allu gwneud yr hyn y dymunwn ei wneud mor llwyddiannus ag y byddem yn dymuno'i wneud.
Mae rhai penderfyniadau yma i Lywodraeth y DU eu gwneud hefyd. Ar borthladdoedd rhydd, mae wedi bod yn siomedig nad ydym erioed wedi cael syniad llawer cliriach ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn dymuno'i wneud a chyfle cyfartal i'r gwahanol gynigion am borthladdoedd rhydd ledled y DU. Ni all fod yn iawn eich bod, yn yr Alban a Chymru a Gogledd Iwerddon, yn disgwyl i borthladdoedd rhydd gael eu darparu ar sail wahanol gyda llai o adnoddau na gweddill y DU. Nid fy marn i yn unig yw hynny, fel gwleidydd Llafur Cymru—dyna hefyd yw barn y Pwyllgor Materion Cymreig, dan gadeiryddiaeth ac arweiniad Aelod Seneddol Ceidwadol a chanddo borthladd yn ei etholaeth ei hun hefyd wrth gwrs. Ond yr her yma yw sicrhau tegwch gwirioneddol, a chyfran deg o'r adnoddau sydd ar gael. Dyna'n sicr yw agenda'r Llywodraeth hon, a gallwch ddisgwyl i mi barhau i ddadlau dros weld Caergybi a phorthladdoedd eraill yn gael eu cyfran deg o fuddsoddiad a chymorth yma yng Nghymru.
Yn gyntaf oll, gadewch imi fynegi fy nghefnogaeth innau hefyd i alwad yr Aelod am fuddsoddi ym mhorthladd Caergybi, yn unol â'r cwestiynau a godais gyda'r Prif Weinidog yn y Siambr bythefnos yn ôl. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae gan Ynys Môn gyfleoedd unigryw i gyflenwi ynni gwyrdd oherwydd peth o'r seilwaith sydd yno eisoes, gan gynnwys y porthladdoedd wrth gwrs, yn ogystal â rhywfaint o'r capasiti yn y llinellau pŵer yno, y rhwydweithiau rheilffordd a ffyrdd hefyd, yn ogystal â'r caniatâd presennol ar gyfer ynni ar yr ynys. Ac wrth gwrs, mae'r holl ffactorau hyn yn bwysig iawn ar gyfer denu busnes a buddsoddiad newydd i'r ynys hefyd. Credaf fod canfyddiad weithiau nad yw rhywfaint o'r seilwaith hwn o reidrwydd mor integredig a chysylltiedig ag y gallai fod, felly tybed pa gynlluniau integredig strategol a allai fod gennych i fuddsoddi yn rhywfaint o'r seilwaith presennol, ond hefyd mewn seilwaith newydd i ddenu buddsoddiad pellach ar yr ynys, yn enwedig mewn perthynas ag ynni gwyrdd. Diolch.
Fel y gwyddoch, yn ogystal â'r cynigion ar gyfer ynni gwynt ar y môr, rydym ni, gydag arian Ewropeaidd blaenorol, wedi cefnogi'r posibilrwydd o ynni'r llanw ger Ynys Môn hefyd—potensial gwirioneddol a sylweddol i greu diwydiant newydd, yn ogystal â diwydiant mwy aeddfed sy'n bodoli hefyd. Hoffwn ddweud yn glir—nid oes a wnelo hyn â symud buddsoddiad; byddai hynny'n awgrymu ei fod yn dod o rywle arall. Mae'n ymwneud â thyfu buddsoddiad. Gwn i chi nodi yn ail ran eich cwestiwn eich bod yn dymuno tyfu'r economi o amgylch Ynys Môn, ac mae potensial gwirioneddol yma, ac mae'n golygu y bydd angen inni weithio mewn ffordd adeiladol gyda'r cyngor, ond hefyd gyda Llywodraeth y DU, gan fod rhai o’r pwyntiau y sonioch chi amdanynt ynglŷn â'r seilwaith, a sicrhau bod y grid mewn sefyllfa i allu trosglwyddo’r ynni a gynhyrchir, a’n gallu i gael capasiti storio hefyd, maent yn golygu bod angen i Lywodraeth y DU fod yn rhan o'r gwaith hefyd.
Nawr, mae'r gwahaniaethau rhyngom ni a Llywodraeth y DU ar ystod o faterion yn glir iawn, ond yn y cyswllt hwn dylai fod lle i ddull adeiladol a phriodol o weithredu. Felly, edrychaf ymlaen at gyfarfod â Greg Hands, y Gweinidog ynni newydd, y bûm yn ymdrin ag ef yn ei swydd flaenorol fel Gweinidog masnach, i gael sgyrsiau adeiladol iawn am fuddsoddi yn Ynys Môn, mewn ynni adnewyddadwy ac er mwyn cael penderfyniad o'r diwedd ar ddyfodol ynni niwclear, ar Ynys Môn ond yn Nhrawsfynydd hefyd. Mae cyfleoedd i'w cael, ond mae angen peth siarad plaen a rhywfaint o onestrwydd gan Lywodraeth y DU, ac mae angen iddynt wneud penderfyniadau, gan y credaf fod yr achos dros y buddsoddiad hwnnw y tro diwethaf wedi clwyfo rhai pobl wrth iddynt gael eu harwain i feddwl bod buddsoddiad sylweddol ar y ffordd, a'i fod heb ddigwydd wedyn. Felly, hoffem rywfaint o onestrwydd, hoffem weld penderfyniadau'n digwydd a hoffem sicrhau'r budd mwyaf posibl i'n cymunedau lleol.