Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 29 Medi 2021.
Weinidog, mae nifer o fusnesau bach yn y sector lletygarwch wedi cysylltu efo fi dros y misoedd diwethaf yn cwyno nad ydy’r cymorth ariannol COVID i fusnesau lletygarwch wedi bod yn deg, gan fod y cymorth hynny yn seiliedig ar nifer y bobl mae’r busnes yn ei gyflogi, heb ystyried gwerth economaidd y busnes i’r economi sylfaenol a’r economi leol. Ac er gwaethaf yr haf da maen nhw wedi’i gael, mae’r busnesau yma yn dal i ddioddef ers trychineb gaeaf y llynedd. Pa gymorth ychwanegol fedrwch chi ei gynnig yn benodol i fusnesau llai fel y tafarndai a’r bwytai bach gwledig yma?