1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 29 Medi 2021.
8. Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56919
Diolch. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru, fel gyda phob rhan o Gymru, wedi'u nodi yn ein rhaglen lywodraethu, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin eleni.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb cryno, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae rhannau sylweddol o economi gogledd Cymru o fewn y sector adeiladu, ac yn ddiweddar cefais y fraint o gyfarfod â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, y CITB, a amlinellodd rai o'r heriau y maent yn eu profi gyda phrinder sgiliau o fewn y sector. Yn wir, yn ogystal â'r prinder sgiliau presennol, erbyn 2025 ledled Cymru, bydd gan y diwydiant 9,000 o swyddi eraill y bydd angen eu llenwi, ac erbyn 2028 bydd angen llenwi 12,000 o swyddi pellach i gefnogi peth o'r gwaith sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd a'r gwaith ôl-osod y bydd angen ei wneud.
Wrth gwrs, mae cyfle mawr yma ac mae gennym botensial ar gyfer degau o filoedd o swyddi newydd mewn sector medrus iawn, a allai gefnogi ein heconomi. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau y bydd y rhan hon o'r economi yn cyflawni ei photensial yng ngogledd Cymru ac i sicrhau y bydd y galw am swyddi yn y dyfodol yn cael ei ateb?
Wel, mae hyn yn ymwneud â gweithio ochr yn ochr â darparwyr yn y ffordd y dyfarnwn ein prentisiaethau, ond yn fwy na hynny mae'n ymwneud â'n gallu i barhau i fuddsoddi yn y dyfodol. Efallai fod hyn yn swnio ychydig bach fel record wedi torri, ond mae'n bwysig iawn peidio â cholli golwg ar hyn. Mae sicrwydd ynghylch cyllid i gefnogi prentisiaethau yn hynod bwysig ac i ailfuddsoddi yn sgiliau'r gweithlu presennol hefyd. Dyna ein huchelgais—gallu gwneud hynny—oherwydd rydym yn cydnabod bod swyddi da ar gael yn y sector adeiladu, fel y dywedwch, sydd angen sgiliau i'w gwneud ac sy'n talu cyflogau uwch na'r cyflog cyfartalog hefyd. Felly, mae gyrfa dda i'w chael o fewn y diwydiant adeiladu, ac rydym yn gobeithio ehangu'r sylfaen o bobl sy'n mynd i'r maes adeiladu. Nid swydd i ddynion o faint a siâp penodol yn unig ydyw; mae lle i ddynion a menywod allu gweithio yn y sector yn llwyddiannus hefyd. Felly, rydym am weld gweithlu ehangach yn mynd i mewn i'r sector, rydym am fuddsoddi mewn sgiliau yn y dyfodol, rydym am sicrwydd er mwyn gallu gwneud hynny, a byddai sicrwydd gan ein cymheiriaid yn Llywodraeth y DU yn caniatáu inni wneud hynny a chynllunio gyda'r diwydiant. A dylwn ddweud ein bod mewn sefyllfa ffodus yng Nghymru: mae cael perthynas dda iawn â'r sector adeiladu yn sylfaen dda i adeiladu arni.
Weinidog, mae nifer o fusnesau bach yn y sector lletygarwch wedi cysylltu efo fi dros y misoedd diwethaf yn cwyno nad ydy’r cymorth ariannol COVID i fusnesau lletygarwch wedi bod yn deg, gan fod y cymorth hynny yn seiliedig ar nifer y bobl mae’r busnes yn ei gyflogi, heb ystyried gwerth economaidd y busnes i’r economi sylfaenol a’r economi leol. Ac er gwaethaf yr haf da maen nhw wedi’i gael, mae’r busnesau yma yn dal i ddioddef ers trychineb gaeaf y llynedd. Pa gymorth ychwanegol fedrwch chi ei gynnig yn benodol i fusnesau llai fel y tafarndai a’r bwytai bach gwledig yma?
Rydym wedi cynllunio ein cymorth COVID drwy'r pandemig i helpu busnesau i oroesi ac i baratoi ar gyfer masnachu eto. Rydym wedi cael cymorth argyfwng, gan gynnwys ar adegau pan fo'r fasnach honno wedi'i chyfyngu, ac rydym wedi gorfod gwneud hynny ar sail sy'n wrthrychol ac yn deg, a deall y costau sy'n bodoli i'r busnesau unigol hynny. Byddai ceisio cynllunio hynny ar sail gwerth cymdeithasol ehangach yn heriol iawn i redeg y cynllun hwnnw y bu'n rhaid inni ei sefydlu mewn amser byr iawn, a chredaf y byddai'n gymhleth i'r pwynt o fod yn amhosibl ei gyflawni i wneud—. Deallaf pam y mae'r Aelod yn codi'r mater, ond nid wyf yn credu ei bod yn ffordd realistig o redeg y cymorth sydd ar gael.
Dylwn ddweud, yn y sector hwnnw wrth gwrs, y dylai'r busnesau hynny elwa ar gyfnod o flwyddyn o ryddhad ardrethi, yn wahanol i gymheiriaid yn Lloegr, a fydd wedi gweld y cymorth hwnnw'n lleihau. Mae'n ffaith na ellir ei gwadu bod y cynnig cymorth mwyaf hael wedi'i ddarparu i fusnesau yma yng Nghymru. A hyd yn oed pan fyddaf fi'n bersonol yn ymwneud â busnesau yn y diwydiant lletygarwch—nid wyf wedi gallu eu hosgoi yn fy etholaeth i—maent wedi dweud yn glir eu bod yn deall bod cynnig mwy hael yma yng Nghymru na thros y ffin yn Lloegr, ond mae'n dal i fod yn amser heriol. Mae'n ei gwneud yn bwysicach fyth fod pobl yn gwneud y peth iawn a defnyddio'r busnesau hynny, ac ymddwyn yn y ffordd gywir, oherwydd rydym am eu gweld yn agored ac yn masnachu. Nid oes yr un ohonom, gan fy nghynnwys i, am fynd i sefyllfa lle bydd gennym gyfyngiadau pellach yn cael eu cyflwyno am na allwn gadw rheolaeth ar y pandemig ei hun. Pan fyddwn wedi cefnu'n iawn ar y pandemig, ac yn cael cyfnod masnachu cyn y Nadolig sy'n llawer mwy normal, gobeithio, rwy'n credu y bydd y busnesau hyn yn gweld bod cyfleoedd gwirioneddol yn bodoli ar gyfer y dyfodol ac yn ein helpu i recriwtio mwy o staff i'r hyn a ddylai fod, unwaith eto, yn sector lle gellir cael gyrfa go iawn, ac nid swydd yn unig.
Diolch i'r Gweinidog.