Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:20, 29 Medi 2021

Diolch yn fawr, Paul. Mae gwasanaethau iechyd, fel pob bwrdd iechyd yn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, o dan bwysau aruthrol yn ymdrin â nifer uwch nag erioed o achosion o COVID yn y gymuned, yn gweld poblogaeth sy’n heneiddio, sector gofal sy'n fregus tu hwnt, bygythiad ffliw y gaeaf, a’r angen i ddarparu brechlynnau i atgyfnerthu a brechu plant 12 i 15 oed. Yn ogystal â hyn, maent yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, a lle y bo hynny'n bosibl, yn mynd i’r afael â’r rhestrau aros sydd wedi tyfu dros gyfnod y pandemig.