Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 29 Medi 2021.
Weinidog, yr wythnos diwethaf heriais y Prif Weinidog ynglŷn â gwasanaethau ambiwlans yn sir Benfro, ac fe'm cyhuddodd o ledaenu sibrydion di-sail, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Oherwydd daw'r sylwadau a gefais ar y mater hwn gan weithwyr rheng flaen y gwasanaeth brys yn sir Benfro sy'n pryderu'n fawr am argymhellion i leihau'r gwasanaeth ambiwlans lleol a'r effaith y byddai'r argymhellion yn ei chael ar y boblogaeth leol ac ar y gweithlu. Daw'r argymhellion i leihau'r gwasanaeth ambiwlans yn sgil y ffaith na fydd asesiadau brys pediatrig ar gael yn ysbyty Llwynhelyg a byddant yn parhau i gael eu trosglwyddo i ysbyty Glangwili tan o leiaf y flwyddyn nesaf. Ac wrth gwrs, gofynnir yn awr i'r fyddin gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans, ac felly nid yw lleihau'r gwasanaeth brys yn sir Benfro yn gwneud unrhyw synnwyr. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymyrryd yn awr i sicrhau na chaiff gwasanaeth ambiwlans brys sir Benfro ei leihau?