Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 29 Medi 2021.
Diolch yn fawr, Cefin. Fel dwi'n dweud, mae'r gwasanaeth dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd. Mae'r cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn galw ambiwlansys—dŷn ni byth wedi gweld dim byd tebyg i hwn o'r blaen. Y ffaith yw bod tua 20 y cant o'r galwadau hynny yn ymwneud â COVID, felly mae hi'n gyfnod o bwysau aruthrol. Mae'r 'ailroster-o'—dyna yw'r gwahaniaeth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd; ailfeddwl ynglŷn â ble mae ambiwlansys yn mynd i gael eu lleoli. Mae lot o waith wedi cael ei wneud ar hwn. Dwi yn gobeithio y bydd cyfle ichi ddod ar ddydd Gwener i wrando ar y gwasanaeth ambiwlans yn egluro beth maen nhw'n ei wneud, pam maen nhw'n ei wneud ef a pham maen nhw'n ymateb yn y modd hwn. Felly, bydd yna gyfle ichi wedyn i ofyn cwestiynau mwy penodol, efallai, fel y rhai rydych wedi'u gofyn y prynhawn yma.