Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 29 Medi 2021.
Mae fy nghwestiwn i yn dilyn trywydd tebyg iawn, a dweud y gwir, i'r cwestiwn gan Paul Davies. Ar adeg pan taw dim ond 48 y cant o alwadau coch sy'n cael eu hateb o fewn wyth munud yn hytrach na'r targed o 65 y cant ar draws ardal Hywel Dda, mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn bwriadu torri nifer yr ambiwlansys o dri i ddau yn Aberystwyth ac o dri i ddau yn Aberteifi, a gwneud hyn heb roi gwybod i'r cyhoedd na'r meddygfeydd lleol. Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod bod ein paramedics o dan bwysau difrifol iawn, ac yn aml yn ciwio tu fas i ysbytai yn yr Amwythig, yn Abertawe, yn Glangwili, Llwynhelyg, ac yn y blaen, a ddim ar gael, felly, i ateb galwadau brys yng Ngheredigion, lle mae'r targedau o bedair awr, wyth a 12 awr yn cael eu methu'n rheolaidd. Ac, yn anffodus, yr un yw'r sefyllfa ar draws ardal Hywel Dda yn gyfan gwbl. Dwi'n falch iawn i glywed eich bod chi'n bwriadu rhoi briffio i Aelodau yn y gorllewin. Felly, yn y cyfarfod hwnnw, rwy'n edrych ymlaen i glywed a ydy hi'n dderbyniol, felly, mewn cyfnod o argyfwng i'r gwasanaeth brys, fod yr ymddiriedolaeth yn torri'r gwasanaeth ambiwlans yn Aberystwyth ac Aberteifi gan dros 30 y cant.