Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 2:33, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael i'ch croesawu i'ch swydd ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Weinidog, rydym ar hyn o bryd yn wynebu epidemig iechyd meddwl yma yng Nghymru. Mae atgyfeiriadau wedi cynyddu, mae cynnydd sydyn iawn yn nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cadw dan adran 136 ac mae mwy o bobl ifanc yn hunan-niweidio nag erioed o'r blaen. Felly, beth yw blaenoriaethau eich Llywodraeth, wrth symud ymlaen, i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon, oherwydd mae pethau'n gwaethygu ar hyn o bryd, nid gwella?