Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 29 Medi 2021.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n gyfrifol am wasanaethau strôc brys yng Nghaerdydd. Mae cleifion sy'n mynychu adran achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru yn cael blaenoriaeth ar gyfer asesu a delweddu i wneud diagnosis o strôc, ac fe'u rhoddir ar y llwybr strôc sydd wedi'i integreiddio'n llawn.