2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 29 Medi 2021.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwasanaethau strôc brys yng Nghaerdydd? OQ56928
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n gyfrifol am wasanaethau strôc brys yng Nghaerdydd. Mae cleifion sy'n mynychu adran achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru yn cael blaenoriaeth ar gyfer asesu a delweddu i wneud diagnosis o strôc, ac fe'u rhoddir ar y llwybr strôc sydd wedi'i integreiddio'n llawn.
Diolch, Weinidog. Cafodd un o fy etholwyr ddiagnosis cywir o strôc gan atebwr galwadau 999 ac yn amlwg cadarnhaodd fod angen iddo gael ei weld ar frys yn ysbyty'r Mynydd Bychan. Gan nad oedd yn glir pa mor hir y byddai'n ei gymryd i ambiwlans gyrraedd, dywedodd y teulu wrth 999 y byddent yn mynd ag ef i'r ysbyty eu hunain, ond ar ôl cyrraedd, cawsant eu dal yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys am 27 awr cyn iddo gael ei dderbyn i'r ward strôc acíwt. Nawr, rwy'n llwyr ddeall y pwysau digynsail sydd ar y gwasanaethau brys, ac mae rhoi prawf COVID i bobl sy'n cyrraedd yn ddirybudd yn rhan bwysig o sicrhau ein bod yn cadw COVID allan o ysbytai. Ond gan fod Caerdydd a'r Fro wedi arloesi gyda system frysbennu newydd dros y ffon i atal pobl rhag gorlenwi'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn ystod y pandemig, sut y gallwn wella'r cyfathrebu rhwng 999 a gwasanaeth 24/7 Caerdydd a'r Fro fel bod cleifion, ar ôl cael diagnosis, yn cael eu cyfeirio at y clinigwyr arbenigol y mae angen iddynt eu gweld?
Diolch yn fawr iawn, Jenny. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am sefyllfa eich etholwr. Credaf fod hynny'n amlwg yn gwbl annerbyniol ac yn anodd iawn, ac yn sicr ni ddylai neb fod yn aros 27 awr ar ôl strôc. Ond yn amlwg, mae'n anodd i mi fanylu ar faterion unigol. Fel y dywedwch, mae'r pwysau ar ein gwasanaethau brys yn parhau i fod yn drwm iawn ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth gymhleth o heriau cenedlaethol a lleol ar draws y system sy'n effeithio ar lif cleifion, ac mae hynny'n cynnwys galw anhygoel gan y cyhoedd, yn ogystal â gofyn i'r gweithlu sydd wedi bod wrthi am amser mor eithriadol o hir yn awr. Ond fel y dywedwch, credaf fod y system frysbennu yng Nghaerdydd yn rhywbeth arloesol, sy'n ceisio atal gormod o bobl rhag dod i mewn, gan eu cael i ffonio'n gyntaf a cheisio eu cyfeirio i'r lle cywir wedyn. Felly, mae'n syndod braidd na chawsant eu cyfeirio i rywle mwy priodol. Ond efallai mai dim ond ceisio cadw pobl draw o'r ysbyty y mae'r system, yn hytrach na mannau penodol yn yr ysbyty, ac efallai y byddai'n werth cael sgwrs i weld a ellir addasu'r system honno rywfaint. Ond gwn fod gan Gaerdydd raglenni arloesol iawn ar gyfer strôc, fod 72 y cant o gleifion strôc yng Nghaerdydd hefyd wedi cael eu rhyddhau â chymorth a bod yna raglen arobryn wedi bod yng Nghaerdydd a'r Fro, yr ymgyrch Atal Strôc, ac mae 90 y cant o feddygfeydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen honno.
Cyhoeddodd Rhaglen Archwilio Genedlaethol y Sentinel Strôc—y SSNAP—archwiliad ledled y DU o wasanaethau strôc yn ein hysbytai, ac mae Cymru'n chwarae ei rhan yn cyfrannu data'n rheolaidd at y gwaith pwysig hwn. Dangosodd adroddiad eu harchwiliad sefydliadol acíwt ym mis Rhagfyr 2019 mai dim ond 30 y cant o ysbytai ledled y DU oedd â'r lefel a argymhellir o nyrsys cofrestredig yn gweithio ar benwythnosau. A all y Gweinidog gadarnhau a oedd unrhyw un o'r ysbytai hyn yng Nghymru, ac os felly, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gennym y nifer cywir o nyrsys yn ein hunedau strôc? Diolch, Weinidog.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Altaf. Yn amlwg, rwyf bob amser yn ymwybodol iawn, pan fyddaf yn ymateb i chi, fy mod yn siarad ag arbenigwr, felly mae'n rhaid i mi bob amser fod yn fwy gofalus gyda chi na neb arall yn y Siambr mae'n debyg. [Chwerthin.]
Credaf ei bod yn gwbl briodol fod yn rhaid inni gadw llygad ar nifer y nyrsys. Ac wrth gwrs, mae gennym ni yng Nghymru ddeddfwriaeth mewn perthynas â hynny, ac mae honno'n ddeddfwriaeth unigryw nad yw'n weithredol ar draws gweddill y Deyrnas Unedig, lle mae lefelau staff nyrsio yn ofyniad cyfreithiol. Ac roeddwn yn falch o allu siarad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol y bore yma am y sefyllfa honno a gweithredu hynny. Felly, rydym mewn sefyllfa wahanol i rannau eraill o'r DU o ran nyrsio. Credaf fod pethau eraill y gallwn eu gwneud mewn perthynas â strôc yng Nghymru—mae hyrwyddo ffibriliad atrïaidd o fewn gofal sylfaenol yn rhywbeth arall rwy'n awyddus iawn i weld a allwn fynd ar ei drywydd.