Y Gwasanaeth Ambiwlans

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:56, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mae amseroedd aros ambiwlansys yn y de-ddwyrain yn destun pryder mawr, Weinidog, a chaiff hyn ei ddwysáu gan amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae ffigurau a ryddhawyd yr wythnos hon yn dangos mai ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân sydd wedi perfformio waethaf, yn anffodus, o bob ysbyty yng Nghymru, gyda dim ond pedwar o bob 10 claf yn cael eu gweld o fewn pedair awr yno. Mae llawer o gymunedau yng nghwm Rhymni wedi bod heb adran ddamweiniau ac achosion brys ers cau ysbyty'r glowyr, ac fe gafodd Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach ei agor heb adran ddamweiniau ac achosion brys. Gydag amseroedd aros ambiwlansys hwy, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhybuddio bod cleifion yng Nghymru yn gorfod defnyddio tacsis neu ofyn i'w meddygon teulu eu gyrru i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, a bydd hyn yn waeth yn y de-ddwyrain, a chwm Rhymni yn enwedig, lle mae'n rhaid i bobl deithio ymhellach i gyrraedd eu hadran ddamweiniau ac achosion brys nag y byddent wedi'i wneud pan oedd ysbyty'r glowyr ar agor. Felly, Weinidog, a wnaiff y Llywodraeth agor trafodaethau gyda'r bwrdd iechyd i adfer adran ddamweiniau ac achosion brys yng nghwm Rhymni yn Ysbyty Ystrad Fawr?