Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 29 Medi 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi wnes i gyffroi yr wythnos diwethaf pan glywais i bod y Llywodraeth yn mynd i wneud cyhoeddiad am e-ragnodi, neu e-prescribing. O'r diwedd, meddaf i, a ninnau ddim ond 21 mlynedd i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Ond mi wnaeth fy nghalon i suddo pan welais i mai'r hyn roedd y Llywodraeth yn ei gyhoeddi oedd y byddai e-ragnodi yn cael ei gyflwyno o fewn pum mlynedd. Pam fod y Llywodraeth mor benderfynol o symud mor ofnadwy o araf ar beth sydd mor bwysig?