Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 29 Medi 2021.
Diolch, Jane. Rydyn ni’n parhau i ailgychwyn ar wasanaethau deintyddol y GIG mewn modd diogel, fesul cam. Mae practisau’n blaenoriaethu gofal yn ôl angen ac yn trin achosion brys a phobl sy’n cael problemau yn gyntaf. Mae mesurau yn eu lle i bractisau deintyddol y GIG weld cleifion newydd bob wythnos.