Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 29 Medi 2021.
Diolch i Joyce Watson am ei chwestiwn. Ddoe, gwneuthum ddatganiad ar ddiogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus. Yng Nghymru, rydym yn datblygu ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd, yn y gweithle ac yn y cartref, er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.