Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 29 Medi 2021.
Wrth i bawb ohonom dyfu'n hŷn a byw'n hirach, bydd nifer yr achosion o ddementia'n cynyddu, felly mae hwn yn fater y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae gennym ffordd bell i fynd cyn i wasanaethau dementia gyrraedd lle mae angen iddynt fod, ond rwy'n gobeithio y gall fy nghynnig fynd beth o'r ffordd i helpu'r Llywodraeth gyrraedd yno. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig.