5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dementia

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:57, 29 Medi 2021

Dwi'n falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma, a dwi'n ddiolchgar i Luke Fletcher am arwain y drafodaeth. Dwi'n falch o ymuno ag Aelodau o bob rhan o'r Siambr i alw ar Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia yn well. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod tua 1,300 o bobl yn byw gyda dementia ym Mhreseli Sir Benfro, a thra bod y bobl hynny yn byw yn y gymuned, mae llawer ohonynt yn teimlo eu bod nhw ddim yn rhan ohoni. Dyw llawer o bobl ddim yn ddigon hyderus i adael eu cartrefi ac ymgysylltu yn eu hardal leol, felly mae yna broblem wirioneddol gyda ni, a dyna pam mae'n hynod o bwysig bod Llywodraethau ar bob lefel a chymunedau lleol yn ymgysylltu'n well â'r rhai sy'n byw gyda dementia.

Yn wir, fel cymdeithas, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i helpu i greu cymuned lle mae'r gwasanaethau presennol yn fwy cynhwysol o bobl â dementia. Yn fy etholaeth i, mae caffis cof neu memory cafes mewn lleoedd fel Aberdaugleddau ac Abergwaun, sy'n darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol lle gall pobl gwrdd, siarad a dysgu mwy am ddementia a chael gwybodaeth am ba gefnogaeth sydd ar gael. Dyma'r math o fenter y mae'n rhaid i ni ei hyrwyddo a'i hannog ledled Cymru. Mae'n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn grymuso gweithredu cymunedol ac yn cydweithio'n well i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddementia yn ein cymunedau trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth ym mhob siop a busnes, fel y gall staff a gwirfoddolwyr ddeall dementia yn well. Bydd hyn yn sicr yn helpu cwsmeriaid sy'n byw gyda dementia i deimlo'n fwy hyderus pan fyddan nhw allan yn y gymuned.

Dwi'n siŵr bod Aelodau'n gyfarwydd â'r fenter cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia, neu dementia-friendly communities, sy'n anelu at greu cymunedau ledled y Deyrnas Unedig sy'n fwy cyfforddus i bobl sydd yn byw gyda dementia, ac yn fwy hygyrch i bobl sy'n byw gyda dementia. Gall hyn fod yn unrhyw beth o fod yn fwy amyneddgar gyda chwsmer yn talu wrth y til mewn siop i gyfathrebu'n gliriach dros y ffôn. Mae'r cyfan yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i bobl sy'n byw gyda dementia. Dwi'n falch iawn o weld lleoedd fel Hwlffordd a Solfach wedi eu cofrestru fel cymunedau cyfeillgar i ddementia, ac mae hefyd yn galonogol gweld sefydliadau fel heddlu Dyfed-Powys a gwasanaeth tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru hefyd yn cael eu cofrestru fel hyrwyddwyr sy'n gyfeillgar i ddementia.

Dwi'n ymwybodol o drafodaethau blaenorol bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i'r fenter cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia. Ond efallai mewn ymateb i'r ddadl hon, gall y Dirprwy Weinidog ein diweddaru ni ar ba ganlyniadau a gyflawnwyd ers i Lywodraeth Cymru addo ei chefnogaeth i'r ymgyrch yma. Dwi'n gwerthfawrogi nad oes dull un-ateb-i-bawb o fynd i'r afael â dementia, gan bod pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd, a hefyd efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio mewn lleoliadau trefol o reidrwydd yn gweithio mewn ardaloedd mwy gwledig.

Rŷn ni'n gwybod bod heriau wrth ddarparu cefnogaeth a gofal priodol i'r rhai sy'n byw gyda dementia, yn enwedig yn y cymunedau gwledig rwy'n eu cynrychioli. Fe welon ni adroddiad ar brofiadau byw pobl gyda dementia yn cael ei gyhoeddi yn ôl yn 2017, a oedd yn dweud bod heriau penodol mewn perthynas â thrafnidiaeth, ymwybyddiaeth gyffredinol o ddementia, a mynediad at gefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, rwy'n methu â gweld unrhyw gamau penodol sydd wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn, ac efallai, unwaith eto, y bydd y Dirprwy Weinidog yn bachu ar y cyfle heddiw i nodi pa gefnogaeth sy’n cael ei darparu i bobl sy'n byw gyda dementia mewn ardaloedd gwledig, a hefyd y rhai sydd eisiau cyrchu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nawr, mae yna heriau hefyd sy'n wynebu gofalwyr pobl â dementia. Rŷn ni'n gwybod ei fod yn cael effaith ddinistriol ar fywyd teuluol a pherthnasoedd personol, ac i rai gofalwyr, gall byw gyda rhywun â dementia fod yn arbennig o anodd, ac yn anffodus arwain at broblemau gyda phryder ac iselder. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru i helpu pobl i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu, a oedd yn edrych ar seibiannau byr a gofal seibiant. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog roi ei hasesiad o'r darn hwnnw o waith, a sut mae'r gwaith hwnnw wedi llunio cynllun cyflawni'r grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr. Mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi nawr yn yr hydref.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae yna rai enghreifftiau gwych o fentrau lleol sydd wedi'u sefydlu gan lawer o grwpiau i gefnogi ac i wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru, ac mae angen rhannu'r arfer gorau hynny. Felly, rwy’n annog Aelodau nawr i gefnogi’r cynnig yma y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn i chi.