5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dementia

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:30, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'r meddwl dynol yn beth gwerthfawr a bregus. Rydym yn byw gyda'n hatgofion a phan gânt eu dwyn oddi wrthym a chyflwr fel dementia yn gafael, gall fod yn greulon ac yn wanychol. Fel y clywsom, amcangyfrifir bod 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, ond mae'n effeithio nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd cyfan sy'n gorfod ymdopi â galar a cholled bob dydd, er bod eu hanwyliaid yn eistedd o'u blaenau. 

Roedd dementia ar fy mam-gu, Doreen. Bu byw hyd nes ei bod hi dros ei chant oed, ond cymerwyd blynyddoedd olaf ei bywyd oddi wrthi'n raddol, fesul darn. Roedd hi wedi bod yn gogydd ac yn bobydd brwd ac roedd hi'n pobi pice ar y maen ar ei charreg bobi tan ei bod bron yn 98 oed, ond byddai'n anghofio ychwanegu'r siwgr neu'r halen neu'n eu gadael ar y garreg bobi eiliad yn rhy hir. Dyna oedd rhai o'r arwyddion cyntaf.

Roedd hi'n arfer gwnïo a chrosio a byddai'n dwli dweud wrth bobl ei bod wedi gwneud gwisg ysgol gyfan i fy nhad pan oedd yn fach, yn cynnwys y siaced ysgol ramadeg gyda'r defnydd brethyn main a brynasai ym marchnad Pontypridd, ac wedi prynu bathodyn yr ysgol a'i wnïo ar y siaced. Ond fe welodd golli'r cysur a gâi o wnïo a defnyddio ei dwylo fwy a mwy yn ei blynyddoedd olaf. Byddai'r postmon yn ei gweld yn y ffenestr, yn eistedd yno, heb fod yn gwnïo mwyach, ond yn edrych allan ac yn gwylio'r byd yn mynd heibio.

Roedd fy mam-gu wrth ei bodd yn cerdded. Pan oedd fy chwaer a minnau'n fach, byddem yn mynd ar deithiau cerdded ar fynydd Nelson i bigo mwyar duon a llus, ond fwy a mwy, wrth iddi fynd ymhellach i mewn i'w 90au ac wrth i'r dementia dynhau ei afael, byddai'n meddwl y gallai gerdded ymhellach nag y gallai, a byddai'n parhau i gerdded ar y llwybrau anwastad ger ei chartref, yn gwbl ddall i'r perygl o gwympo. Rwy'n ei chofio'n ffonio tŷ fy rhieni un diwrnod a minnau'n ateb, a gofynnodd i mi, 'Pam na allaf wneud yr holl bethau y byddwn yn arfer eu gwneud?', a dyheai am allu cerdded a cherdded. Byddai'n teimlo'n rhwystredig a byddai'n unig, ac er bod fy rhieni'n galw gyda hi bob dydd, yn ogystal â gofalwyr, byddai'n teimlo'n drist ac yn anghofio eu bod wedi bod yno. 

Pan ddirywiodd ei chyflwr, cytunodd y byddai'n fwy cyfforddus ac yn fwy diogel mewn cartref, er ei bod yn dal i gwympo, ac ar ôl un gwymp, aeth i Ysbyty'r Tywysog Charles gyda fy mam a chafodd ei chadw—menyw yn ei nawdegau; 99 mlwydd oed—ar droli mewn coridor am naw awr. Nid bai'r meddygon na'r nyrsys na'r criw ambiwlans oedd hyn, ond bai'r system sy'n tanariannu ei gwasanaeth iechyd i'r graddau fod gwraig 99 oed wedi'i gadael heb gymorth arbenigol ynghanol y nos. Mae arnom angen gwasanaethau dementia ar draws gofal sylfaenol, ac ysbytai a chartrefi gofal wedi'u hintegreiddio a'u hariannu'n briodol. Mae angen inni fuddsoddi ac ymchwilio i sut i sicrhau diagnosis mwy cywir o ddementia ac mae taer angen mwy o gefnogaeth arnom i gleifion a'u teuluoedd ar ôl cael diagnosis fel nad ydynt yn cael eu hamddifadu o ragor o rym.

Ond Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf y tristwch a nodweddai ei blynyddoedd olaf gyda ni, cafodd fy mam-gu fywyd hapus iawn. Ac er i ddementia ei hamddifadu o gymaint o atgofion, roedd hi'n canu tan y diwedd. Roedd hi wrth ei bodd yn canu. Ei ffefrynnau oedd 'Danny Boy' a 'Mother Machree' a chanodd y ddwy gân ar ei phen-blwydd yn gant oed. Nid wyf erioed wedi clywed neb arall yn canu 'Mother Machree', felly pan glywaf y geiriau hynny, rwy'n meddwl amdani hi a hoffwn rannu rhai o'r geiriau gyda chi wrth gloi, Ddirprwy Lywydd.

'Mae lle yn fy ngof, / Fy mywyd, mi wyt ti'n ei lenwi, / All neb arall ei gymryd, / Fydd neb byth yn ei wneud. / Rwy'n caru'r arian annwyl / Sydd yn disgleirio yn dy wallt, / A'r talcen sydd yn rhychog i gyd, / Ac yn grychiog â gofid. / Rwy'n cusanu'r bysedd annwyl, / Ac ôl traul arnynt er fy mwyn i, / Bendith Duw arnot a'i ofal amdanat, / Mam Machree.'