5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dementia

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:43, 29 Medi 2021

Dirprwy Lywydd, fel gŵyr nifer yn y Siambr heddiw, mae diwygio'r sector gofal yn bwysig iawn i fi. Fel nifer, mae fe'n bersonol hefyd. Dywedwyd ddoe yn y Siambr fod y gair 'crisis' yn cael ei orddefnyddio. Digon gwir, o bosib, ond mae'n sicr yn grisis yn y sector gofal, a gwaethygu y mae'r crisis yn mynd i'w wneud. Dyma un rheswm pam yr ydw i mor falch i gloi'r ddadl hollbwysig yma heddiw.