Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 29 Medi 2021.
Fel y mae pawb arall wedi'i wneud, rwyf am ddiolch i Luke am fynd ar drywydd hyn, am gyflwyno'r ddadl hon. Roedd yn ddadl anodd i wrando arni—dadl anodd iawn i wrando arni—rhaid bod gennych galon galed iawn os na chawsoch eich cyffwrdd gan y ddadl heddiw, ond mae'n galonogol gweld cefnogaeth drawsbleidiol, a'n bod ni i gyd yn barod i gydweithio i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn.