– Senedd Cymru am 5:52 pm ar 29 Medi 2021.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar dementia. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Luke Fletcher. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, 14 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Gwelliant 1 yw'r gwelliant cyntaf i'w bleidleisio arno. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
Mae gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol.
Mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM7784 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd yn:
1. Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17 y cant o allyriadau Cymru.
2. Galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o deithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol;
b) dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddatgarboneiddio cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu, er mwyn i bobl allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal ac 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio, ond mae'r ddadl fer i ddilyn, ac felly unrhyw Aelodau sy'n gadael i wneud hynny yn dawel ac yn gyflym.
Dylai unrhyw Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel ac yn gyflym.