Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 5 Hydref 2021.
Prif Weinidog, y cwbl roeddwn i eisiau ei ofyn mewn gwirionedd oedd cwestiwn cryno iawn am gymorth i ganol ein trefi. Fel y byddech chi'n cytuno, rwy'n siŵr, yn ystod cyfnod COVID, mae llawer o siopau bach wedi bod yn gwbl hanfodol i'n cymunedau. Ac felly, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod sut y byddwch chi'n cynorthwyo canol ein trefi yn y dyfodol. Diolch. Diolch yn fawr iawn.