Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 5 Hydref 2021.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd, ac mae'n un pwysig iawn o ran cymorth busnes. Rwy'n cofio'r llythyr a ysgrifennodd y Ffederasiwn Busnesau Bach at yr Aelodau yn ôl ym mis Mehefin eleni. Yr oedd yng nghyd-destun y gronfa ffyniant gyffredin, a dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach, beth bynnag fo ffurf y gronfa ffyniant gyffredin, ei bod hi'n hanfodol bod arian yn parhau i ddod i Gymru fel y gellir diogelu a datblygu seilwaith cymorth busnes craidd, gan gynnwys Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, yn y dyfodol. Nawr, y gwir amdani, ar sail yr wybodaeth bresennol sydd gennym ni gan Lywodraeth y DU, yw y bydd cyllid Banc Datblygu Cymru yn cael ei leihau. Byddwn yn colli hyd at draean o'r arian yr ydym ni'n ei wario ar brentisiaethau yng Nghymru—mae hynny yn £30 miliwn bob blwyddyn. Byddwn ni'n colli £12 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi yn Busnes Cymru.
Felly, mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn gwbl hanfodol. Er mwyn i ni allu gwneud yr hyn y gofynnodd y cwestiwn gwreiddiol i ni ei wneud, mae angen i ni weld yr arian sydd wedi dod i Gymru yn y gorffennol, sydd wedi ein caniatáu i ni wneud y buddsoddiadau hynny, yn parhau i lifo yma. Os na fydd, ni ddylai neb gredu bod rhyw storfa gyfrinachol o arian ar gael i Lywodraeth Cymru y byddem ni'n gallu ei defnyddio i wneud yn iawn am y diffygion a fyddai'n bodoli wedyn o ran cyllid gan y Deyrnas Unedig. Byddwch chi'n cofio'r addewid,—rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn cofio'r addewid—na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Wel, rydym ni eisoes yn gwybod nad yw'r addewid hwnnw wedi ei gyflawni—£137 miliwn yn waeth ei byd o ran cyllid gwledig yn unig. Os na chawn ni'r arian newydd mewn cymorth busnes, yna mae'n anochel y bydd y pethau allweddol hynny y cyfeiriodd y Ffederasiwn Busnesau Bach atyn nhw yn ei lythyr at yr Aelodau o dan fygythiad.