Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 5 Hydref 2021.
Prif Weinidog, galwodd llythyr diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru at Aelodau'r Senedd am ymyriadau allweddol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau fel Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru i gael eu diogelu a'u datblygu. Gydag ansicrwydd parhaus ynghylch cyllid ar ôl yr UE, ac ymdrechion amlwg Llywodraeth y DU i adennill arian a phwerau, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn fygythiad i allu Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion wedi eu llunio yng Nghymru i gynorthwyo busnesau yng Nghymru?