Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 5 Hydref 2021.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae aelodau pob un o bedwar undeb mwyaf y GIG bellach wedi pleidleisio i wrthod cynnig cyflog eich Llywodraeth o 3 y cant; a gwnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru hynny o ganran enfawr o 94 y cant. A wnewch chi gytuno nawr i'w cais am drafodaethau cyflog ffurfiol?