Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 5 Hydref 2021.
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau mewn trafodaethau gyda'r prif undebau llafur yng Nghymru ar y cynnig cyflog. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y trafodaethau parhaus hynny. Byddwn i'n eu hannog i ddychwelyd at y bwrdd, oherwydd dim ond trwy drafodaeth y byddwn ni'n gallu dod o hyd i ateb.