Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 5 Hydref 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae datblygu cynaliadwy wedi bod wrth wraidd datganoli yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf. Yn 2015, gwnaeth y Senedd hon benderfyniad hanesyddol i newid cwrs Cymru a'i rhoi ar lwybr mwy cynaliadwy drwy basio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd hyn yn adlewyrchu'r ymdrech ddiflino gan bobl o bob cwr o Gymru i gryfhau'r ffordd y caiff dyfodol Cymru ei lunio. Mae'n parhau i fod yn ymrwymiad cymdeithas Cymru i ansawdd bywyd gwell ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ar gyfer pobl, ar gyfer y blaned, nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Fis diwethaf, gwelsom y Cenhedloedd Unedig, am y tro cyntaf erioed, yn ymrwymo i sefydlu ystod o ddulliau sefydliadol i wella undod â chenedlaethau'r dyfodol. Roedd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynrychioli cenedlaethau'r dyfodol yn rhan o ddull gweithredu unrhyw wlad i wella bywydau dinasyddion a bod â chyfrifoldeb dros y blaned. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer datganiad ar genedlaethau'r dyfodol, cennad arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a dulliau rheolaidd i ystyried tueddiadau yn y dyfodol. Mae ein profiad yng Nghymru wedi annog gwledydd eraill i wneud yr un peth, ac mae'r newidiadau hyn yn gymeradwyaeth gref i benderfyniadau beiddgar y Senedd i ddeddfu ar gyfer y dyfodol.
Mae datganiad Agenda 2030, a ffurfiodd nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, yn cydnabod yn benodol swyddogaeth hanfodol seneddau cenedlaethol drwy ddeddfu deddfwriaeth a mabwysiadu cyllidebau a'u swyddogaeth o ran sicrhau atebolrwydd am weithredu effeithiol. Felly, mae'r Senedd yn elfen bwysig a chydnabyddedig o bensaernïaeth atebolrwydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. I gydnabod hyn, roeddwn i eisiau gwneud datganiad cynnar yn nhymor y Senedd hon wrth i ni ddechrau'r cylch nesaf o wneud cynaliadwyedd yn rhan annatod o'r ffordd y mae Cymru'n gweithio.
Mae Cymru'n parhau i ddangos ei harweinyddiaeth ryngwladol ar yr agenda datblygu cynaliadwy. Mae'r adroddiad annibynnol a lansiwyd yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn dangos bod sylfaen ymchwil Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Rwy'n falch o weld y cyfraniad y mae ein cymuned wyddonol yn ei wneud at faterion byd-eang.
Mae ein camau gweithredu a'n harweinyddiaeth ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cyflymu yn nhymor y Llywodraeth hon. Mae ein rhaglen lywodraethu, gyda'r amcanion llesiant wrth ei gwraidd, yn dangos swyddogaeth ganolog dull llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn llunio polisïau. Rydym wedi dod â chyrff cyhoeddus at ei gilydd i drafod sut yr ydym yn bwrw ymlaen â'n huchelgeisiau datblygu cynaliadwy ar gyfer Cymru drwy fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n bwriadu cwrdd ag aelodau'r fforwm yn fuan i drafod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi arweiniad wrth roi'r Ddeddf ar waith yn genedlaethol, a sut y gallwn fwrw ymlaen â chamau gweithredu penodol mewn cydweithrediad â'r fforwm a dwyn ynghyd y camau hyn mewn cynllun ar gyfer tymor y llywodraeth hon.
Y mis diwethaf, lansiais ymgynghoriad ar gerrig milltir cenedlaethol i Gymru, a fydd yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol tuag at gyflawni'r nodau llesiant a rennir. Ddiwedd eleni, bydd gennym y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol o fewn y Ddeddf, byddwn wedi diweddaru ein dangosyddion llesiant cenedlaethol i adlewyrchu effaith y pandemig hyd yn hyn, ac wedi diweddaru ein hadroddiad ar dueddiadau yn y dyfodol sy'n debygol o effeithio ar Gymru. Mae'r gwaith hwn yn rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth, yr wyf yn gwybod bod y fforwm cenedlaethol yn awyddus i weithio gyda ni arni hi.
Byddwn ni hefyd yn adolygu'r rhestr o gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, gan ein bod yn cydnabod bod gwerth mewn ymestyn y dyletswyddau hyn i gyrff cyhoeddus eraill, a bod llawer o gyrff eisoes yn mabwysiadu'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn wirfoddol. Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu â'n cymheiriaid rhyngwladol drwy ein haelodaeth barhaus o 'Regions4 sustainable development' a Rhwydwaith Llywodraethau'r Economi Llesiant, ochr yn ochr â'r Alban, Gwlad yr Iâ, y Ffindir a Seland Newydd.
Ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, gwelsom dri adroddiad arwyddocaol yn canolbwyntio ar gyhoeddi'r Ddeddf. Roedd 'Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol' yn darparu asesiadau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o welliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy; adroddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ganlyniadau ei archwiliadau o'r holl gyrff cyhoeddus; ac edrychodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y pumed Senedd ar y rhwystrau rhag gweithredu. Rwyf wedi croesawu'r adroddiadau hyn gan eu bod yn rhoi cyfle i bwyso a mesur ym mhob tymor Senedd sut y mae'r Ddeddf yn galluogi'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Mae ein hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bellach wedi'i gyhoeddi, a byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hymatebion i adroddiadau'r archwilydd cyffredinol a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol cyn bo hir. Bydd angen amser ar aelodau a'r pwyllgorau perthnasol i ystyried canfyddiadau'r adroddiadau hyn yn ogystal â'r ymatebion gan y Llywodraeth, y comisiynydd, yr archwilydd cyffredinol a'r cyrff cyhoeddus sy'n gyfrifol am gyflawni datblygu cynaliadwy.
Rwy'n deall y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried yr ymatebion i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yfory, ac rwy'n gobeithio y bydd ein hymateb i'r argymhellion yn ddefnyddiol yn eu trafodaethau. Ond rwy'n sylweddoli hefyd y bydd angen amser ar aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ac, wrth gwrs, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y Ddeddf, i ystyried ein hymateb, a byddwn yn hapus i ymateb i unrhyw bwyntiau eraill sy'n deillio o'r trafodaethau hyn.
I gydnabod hyn, mae'r datganiad heddiw yn canolbwyntio ar ein camau gweithredu parhaus ar agenda llesiant cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru a sut y gall y ddeddfwriaeth ysgogi gwell penderfyniadau ar gyfer y cenedlaethau presennol a rhai'r dyfodol. Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn parhau i lywio'r hyn a wnawn, sut yr ydym yn gweithio, a sut yr ydym yn gweithio gydag eraill. Byddwn yn arwain y neges ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru, a'r newidiadau i'r ffordd yr ydym yn gweithio, fel bod datblygu cynaliadwy yn cael ei atgyfnerthu fel egwyddor drefniadol ganolog y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.