Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 5 Hydref 2021.
Rwy'n dychmygu y cafodd y Gweinidog brofiad amhleserus wrth ddarllen adroddiad 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol' o gofio'r nifer llethol o feirniadaethau a osodwyd wrth ei drws a pha mor wael y cafodd y ddeddfwriaeth hon ei gweithredu.
Mae'r comisiynydd ei hun wedi mynegi pryder mawr fod ei swyddfa'n cael ei thanariannu'n aruthrol i weithredu polisi cenedlaethau'r dyfodol blaenllaw Llywodraeth Cymru yn llawn, ac er y dangoswyd bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cyflawni mewn rhai achosion dethol, mae llawer o achosion a gofnodwyd lle mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi teimlo'n gwbl ddi-gefnogaeth. Yn wir,
'Yn ôl rhai, "cyfyngedig" oedd y cyfathrebu a'r ohebiaeth, a "gweddol ysbeidiol" yw presenoldeb' y comisiynydd mewn cyfarfodydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn mynd gam ymhellach, gan dynnu sylw at y ffaith eu bod yn ansicr ynghylch pa lefel o gymorth y gallan nhw ei ddisgwyl mewn gwirionedd ac nad yw gweithredu'r Ddeddf bob amser yn glir, ac y bydden nhw mewn gwirionedd yn croesawu cymorth mwy ymarferol gan swyddfa'r comisiynydd. O gael ei holi am hyn, teimlai comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol nad oedd ganddi'r adnoddau i gyflawni'r rhaglen waith hon gan mai ganddi hi y mae'r gyllideb isaf o'i chymharu â chyllideb unrhyw gomisiynydd yng Nghymru. Hefyd, tynnodd y comisiynydd sylw at y ffaith bod 43 y cant o'i hamser swyddfa yn cael ei ddefnyddio mewn gwirionedd i
'gefnogi, cynghori a lobïo Llywodraeth Cymru' i weithredu'r Ddeddf o fewn ei sefydliad ei hun. Mae'n anghredadwy, ond eto nid yw'n syndod, o ystyried anallu cyffredinol y Llywodraeth hon i hyd yn oed roi ei deddfwriaeth ei hun ar waith yn ei sefydliad ei hun, ac mae ei chomisiynydd wedi syrffedu fel ei bod yn barod i ddweud nad ei gwaith hi yw lobïo Llywodraeth Cymru.
Gweinidog, pam mae comisiwn cenedlaethau'r dyfodol yn treulio amser anghymesur yn ceisio cael y sefydliad hwn i weithio o fewn cyfyngiadau Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, pan ddylai fod yn ceisio cynyddu ei broffil a chefnogi sefydliadau allanol? O gofio nad yw 87 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru, ac, yn fwy syfrdanol, 8 y cant o gyrff cyhoeddus Cymru, erioed wedi clywed am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a wnaiff y Gweinidog gytuno â mi fod Llywodraeth Cymru, ar ôl pum mlynedd, wedi methu â chyflawni ei pholisi blaenllaw? Ac a wnaiff y Gweinidog gytuno â'r myfyrwyr a fu'n ymwneud â'r ymchwiliad mai bai'r blaid lywodraethol ydyw os nad yw pethau'n iawn yn y pen draw?
Mae dadansoddiad pellach o'r adroddiad yn dangos nad yw'n ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad o gwbl ynghylch sut i weithredu'r ddeddfwriaeth hon, ffaith a amlygwyd gan WWF Cymru, y daeth ei hymchwiliad i'r casgliad nad oes dull systematig a chydlynol gan Lywodraeth Cymru i weithredu'r Ddeddf ac ychydig o dystiolaeth a geir hyd yma bod fframwaith y Ddeddf yn ysgogi unrhyw ddatblygiad polisi. Yn wir, clywodd yr ymchwiliad hefyd gan gyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill fod gan Lywodraeth Cymru feddylfryd ynysig wrth weithio, bod diffyg cysondeb yn y ffordd y defnyddir y Ddeddf, a bod diwylliant o newid araf o fewn y sefydliad. Cafwyd beirniadaeth fwy negyddol gan yr archwilydd cyffredinol, a ddywedodd:
'nad yw’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru yn hollol gyson ag ysbryd y Ddeddf yn aml.'
Mae prif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dadlau,
'Mae’n anodd gweld sut mae polisi’r Llywodraeth mewn perthynas â diwylliant a Chymraeg yn ffynnu yn cyd-fynd â gofynion y Ddeddf ar hyn o bryd.'
Cafwyd beirniadaeth ddamniol bellach gan y comisiynydd, a gytunodd eu bod, wedi dechrau’n eithaf araf ar ddechrau’r broses o gyflwyno’r Ddeddf. Nid oedd wir yn gweld yr arweinyddiaeth wleidyddol glir iawn honno o amgylch y Ddeddf, ac felly dywedodd nad oedd yn "llifo i lawr" i’r gwasanaeth sifil ac ati.
Aeth y comisiynydd ymlaen ymhellach i ddweud, yn ddi-flewyn-ar-dafod, yn yr adroddiad:
'pan fyddwch yn dechrau cael tameidiau o ganllawiau a pholisi gan Lywodraeth Cymru, nad ydyn nhw'n cysylltu â'r peth y maen nhw wedi'i greu mewn statud yma, mae hynny'n mynd â ni i gyfeiriad gwahanol, dyna lle mae'r holl beth yn dechrau cael ei danseilio.'
Yn anffodus, mae llawer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn rhannu'r farn hon, sef nad yw'n ymddangos bod gan y Ddeddf, er ei bod i'w gweld yn gyson ym mhrif negeseuon a bwriad polisi'r Llywodraeth, unrhyw neges gydlynol o ran y ffordd y mae hyn yn troi'n weithredu; bod y Ddeddf hon yn rhy gymhleth, yn rhy anghyson ac, i aralleirio comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, mae'n cymhlethu tirwedd sydd eisoes yn gymhleth.
Yn olaf, wrth gloi, o ddarllen yr adroddiad, mae'n amlwg bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn credu mai ychydig iawn o arweiniad gwleidyddol a ddangosodd Llywodraeth Cymru wrth weithredu'r ddeddfwriaeth hon, bod angen lobïo'n gyson i weithredu ei deddfwriaeth ei hun, ac ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod y Ddeddf yn hybu unrhyw ddatblygiad polisi neu ei bod yn ddull cydlynol. Rwy'n deall y bydd y Gweinidog yn gwneud popeth i arbed ei hunan-barch yn sgil yr adroddiad damniol hwn, ond, yn y termau symlaf posibl, a wnaiff y Gweinidog egluro a fyddan nhw'n cymryd y feirniadaeth hon o ddifrif ac yn ymateb yn unol â hynny, neu a fyddan nhw'n ei gwadu ac yn parhau beth bynnag? Mae gwefan cenedlaethau'r dyfodol yn datgan mai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yw'r unig ddeddfwriaeth o'i math yn y byd o hyd ac mae'n cael ei hystyried gan y Cenhedloedd Unedig fel esiampl i wledydd eraill ei dilyn. Os yw hyn yn wir, yna dylai'r Llywodraeth hon fod â chywilydd gwirioneddol. Diolch.