– Senedd Cymru am 4:08 pm ar 5 Hydref 2021.
Eitem 6, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig—Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle yma i egluro cefndir y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac i egluro pam rwy'n awgrymu nad yw'r Senedd yn caniatáu’r Bil Cymwysterau Proffesiynol. Rwy'n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac am gynhyrchu'r adroddiad. Rwyf wedi ymateb i'r cwestiynau a godwyd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaethau a'u hadroddiad. Mae'r pwyllgor wedi codi nifer o awgrymiadau, a byddaf yn ymateb iddynt yn y dyfodol agos, ond gallaf gadarnhau heddiw y byddaf yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor, a lle mae adroddiad y pwyllgor yn gofyn am wybodaeth bellach, ceisiaf ei darparu ar lafar cyn ysgrifennu at y pwyllgor. Yn enwedig, rwy'n nodi'r casgliad yn yr adroddiad, sydd yn cyd-fynd â fy ngofid am bwerau cyd-amserol sydd yn y Bil. Rwy'n gwasgu ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am welliannau i'r Bil, ond, tan i ni gael y sicrwydd sydd yn ein bodloni, nid wyf yn medru newid fy awgrymiad ar y Bil. Gallaf hefyd gadarnhau ein bod ni'n dal i aros am ganllawiau ar ddiffiniadau, sef un o'r cwestiynau a gofynnwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Fel y gwyddoch chi, fy nghyngor i'r Senedd yw na ddylem ni roi cymeradwyaeth i'r Bil yn ei ffurf bresennol. Cafodd y Bil ei ddatblygu'n gyflym gan Lywodraeth y DU, a digwyddodd y rhan fwyaf o'r gweithgarwch hwn yn ystod ein cyfnod cyn yr etholiad, a oedd yn atal Gweinidogion rhag cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r Bil. Yn gyflym, trodd hyn y gwaith o ddatblygu fframwaith cyffredin anneddfwriaethol, sef ein yr opsiwn yr ydym ni'n ei ffafrio ar gyfer rheoli trefn cydnabod cymwysterau proffesiynol ar y cyd, yn Fil Cymwysterau Proffesiynol wedi ei ruthro i'w gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi heb fawr o gyfle i Weinidogion Cymru wneud sylwadau. Rwyf i yn gweld, mae modd dadlau, fod angen cymal 5 fel ffordd ddefnyddiol o addasu deddfwriaeth o ganlyniad i ymadael â'r UE, ond ni adawodd y broses lawer o amser i gyrff rheoleiddio, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg a Gofal Cymdeithasol Cymru, ystyried yn briodol oblygiadau'r Bil ar eu swyddogaethau rheoleiddio. Mae hynt y Bil hyd yma yn Nhŷ'r Arglwyddi wedi nodi bod gan lawer o gyrff rheoleiddio eraill ledled y DU bryderon ynghylch y Bil hefyd a'r effaith y bydd yn ei chael ar eu hymreolaeth a'u trefniadau presennol i hwyluso cydnabyddiaeth o gymwysterau.
Fodd bynnag, fy mhrif bryder ynglŷn â'r Bil hwn yw cynnwys pwerau cydredol. Mae'r pwerau hyn wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth heb unrhyw esboniad ystyrlon gan Lywodraeth y DU ynghylch pam eu bod yn angenrheidiol ym maes proffesiynau wedi eu rheoleiddio, gan arwain i'r casgliad, mae arnaf i ofn dweud, fod hwn yn gam arall gan Lywodraeth y DU i weithredu mewn meysydd sydd yn amlwg wedi eu datganoli. O ystyried y math o bwerau cydredol sydd wedi eu cynnwys yn y Bil, yn ogystal â pha mor gyflym y cafodd y Bil ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU, cafodd dadl gynnar ei chyflwyno i'r Senedd i nodi'n glir ein safbwynt ni yn erbyn unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i fygwth y setliad datganoli. Ein man cychwyn yw na ddylai swyddogaethau cydredol gael eu creu. Fodd bynnag, os yw Llywodraeth y DU yn benderfynol o'u creu, fel y gall fod yn wir yn yr achos hwn, yna byddem ni o leiaf yn disgwyl darpariaeth gydsyniad. Casgliad Llywodraeth Cymru yw bod darpariaethau 1 i 10 a 12 i 19 yn y Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Ni ddylid caniatáu i'r Bil symud yn ei flaen fel y mae ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni weld y gwelliannau yr ydym ni wedi eu ceisio. Felly, cynigiaf y cynnig, ac anogaf bob Aelod o'r Senedd i wrthod y cynnig a gwrthod ein caniatâd i'r Bil.
Galwaf ar Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedoch chi, dwi'n codi i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
Bu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn trafod y memorandwm hwn ar 16 Medi eleni, a'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad oedd dydd Iau diwethaf. Dwi'n nodi bod adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y memorandwm hwn yn cynnwys naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â phwerau a chwmpas—wrth gwrs, roedd gwaith craffu a sgrwtineiddio ein pwyllgor ni wedi'i gyfyngu i faterion polisi yn unig.
Nawr, yn ein hadroddiad, fe wnaethon ni ofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg roi rhagor o wybodaeth i'r holl Aelodau cyn y ddadl heddiw. Gan fod amser yn brin, fe wnaethon ni, fel dywedodd y Gweinidog yn gynharach, ysgrifennu ato fe ddydd Mawrth diwethaf i dynnu ei sylw at y cais hwn. Yn benodol, gofynnon ni am asesiad o effaith y Bil ar broffesiynau rheoleiddiedig yng Nghymru; fe ofynnon ni am amlinelliad o'r effaith ar gymwysterau proffesiynol rheoleiddiedig yng Nghymru er mwyn gweld beth yw lefel y galw am rai proffesiynau penodol; fe ofynnon ni am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â'r cais am eglurhad ynghylch cwmpas y Bil a sut y bydd yn cael ei gymhwyso mewn sectorau penodol, fel addysg bellach; fe ofynnon ni am fanylion am unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch unrhyw newidiadau i'r Bil y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdanynt; fe ofynnon ni am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru â'r rheoleiddwyr yng Nghymru y bydd y Bil yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys cyrff sector cyhoeddus; a fe ofynnon ni am ddisgrifiad o'r cysylltiad rhwng y Bil â threfniadau perthnasol eraill yn y Deyrnas Unedig, fel Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y system newydd ar gyfer mewnfudwyr a chytundebau rhyngwladol yn y dyfodol, ac effaith gyfunol y rhain.
Nawr, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi ein bod ni ddim mewn sefyllfa, cyn cael yr wybodaeth honno, i wneud argymhelliad i'r Senedd ynghylch a ddylid cymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron ni heddiw ai peidio. Gallaf gadarnhau bod y Gweinidog wedi danfon ymateb i'r pwyntiau mae'r pwyllgor wedi eu gwneud, a dwi'n ddiolchgar am ei lythyr ataf a ddaeth i law prynhawn ddoe. Dosbarthwyd yr wybodaeth yma i aelodau'r pwyllgor, ond fel y bydd Aelodau yn cydnabod, dwi'n siŵr, dydyn ni ddim wedi cael amser i ystyried gwybodaeth y Gweinidog a datblygu ymateb fel pwyllgor. Felly, er fy mod yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ddarparu'r wybodaeth ychwanegol yma i'r pwyllgor, o gofio ein bod ni ddim wedi cael cyfle i ystyried yr wybodaeth fel pwyllgor, dydyn ni ddim felly mewn sefyllfa i gymeradwyo na gwrthod yr LCM ger ein bron ni heddiw. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, siaradais am adroddiad ein pwyllgor yn ystod y ddadl ynghylch a ddylai’r Senedd hon roi cydsyniad i Fil yr Amgylchedd. Yr wythnos hon, rydym yn trafod cydsyniad ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a gyda’ch gwahoddiad chi, Dirprwy Lywydd a'r Llywydd hefyd, mae’n debyg y byddwch yn fy ngweld yn eithaf rheolaidd o ystyried nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni, a’r Senedd yn ei chyfanrwydd, yn eu hystyried ar y funud.
Yn ein hadroddiad ar femorandwm cydsyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol, rydym ni wedi nodi tueddiadau sydd, yn anffodus, eisoes yn dod i'r amlwg yn eithaf cynnar yn y Senedd hon, ac rydym ni wedi gwneud naw argymhelliad i'r Gweinidog, ac mae ein hadroddiad hefyd yn nodi nifer o gasgliadau i adlewyrchu ein hystyriaeth gyffredinol o'r memorandwm cydsyniad ar gyfer y Bil.
Yn anffodus, nid oedd y Gweinidog yn gallu ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad ymlaen llaw y prynhawn yma. Mae'n debyg ei bod yn sefyllfa brin, os nad unigryw, sy'n achosi rhai materion amlwg o ran craffu, er ein bod ni'n gwerthfawrogi ymddiheuriad y Gweinidog yn seiliedig ar yr amserlen, a phwysau'r amserlen ar y pen arall yw hyn i raddau hefyd. Mae'r Gweinidog wedi egluro, fodd bynnag, y bydd Llywodraeth Cymru, rydym ni ar ddeall, yn derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad, ac rydym ni'n gobeithio yn llawn, wrth gwrs, ac fe wnaeth amlygu yn ei sylwadau heddiw, yn benodol, bryderon ynghylch pwerau cydredol yn y Bil, yr ydym ni'n tynnu sylw atyn nhw hefyd.
Felly, gadewch i mi fynd trwy rai o'r meysydd yr ydym ni'n pryderu yn eu cylch. Yn yr un modd â Bil yr Amgylchedd, mae'r Bil Cymwysterau Proffesiynol hefyd yn cynnwys y pwerau cydredol hynny, y gall yr Ysgrifennydd Gwladol yng Nghymru eu harfer ar faterion datganoledig. Er ein bod ni'n cydnabod bod y Gweinidog yn ceisio newidiadau i'r Bil i ymdrin â phryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y pwerau hyn, nid ydym ni'n siŵr bod ateb y Gweinidog yn cynnig rhan i'r Senedd ar hyn o bryd. Felly, rydym ni'n cwestiynu pam mae'r Senedd, yn ogystal â chael ei hamddifadu rhag chwarae rhan sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fanylion deddfwriaeth sylfaenol ar fater sydd wedi ei ddatganoli a fydd yn dod i rym yng Nghymru, nid oes rhan iddi ychwaith wedyn yn y craffu ar yr is-ddeddfwriaeth a fydd hefyd yn dod yn gyfraith yng Nghymru. Felly, rydym ni'n credu bod hyn yn amhriodol yn gyfansoddiadol.
Ac mae mater ehangach, sy'n ehangach na'r penderfyniad cydsyniad hwn sydd ger ein bron heddiw. Dyma'r ail o 14 o Filiau'r DU sy'n destun memoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ac rwy'n atgoffa Llywodraeth Cymru ar y cyd ac Aelodau'r Senedd yn garedig i ystyried yr effaith gronnol. Mae craffu ar yr holl femoranda hyn sydd wedi eu gosod gerbron y Senedd, er yn dasg drwm, yn rhoi fy mhwyllgor mewn sefyllfa wych i fonitro'n agos effaith gyffredinol Senedd y DU yn deddfu ar ran y Senedd, p'un a yw cydsyniad wedi ei roi ai peidio. Ac yn barchus, rwyf i'n gosod y marc hwnnw heddiw ar gyfer Llywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU.
Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at faterion eraill sydd o arwyddocâd cyfansoddiadol pwysig. Mae'r cyfuniad o swyddogaethau cydredol a phwerau Harri VIII yn y Bil yn golygu y gallai'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor arfer eu pwerau i wneud rheoliadau i ddiwygio Deddfau'r Senedd a rheoliadau sydd wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Nid ydym ni o'r farn bod hyn yn dderbyniol.
At hynny, nid oes dim yn y Bil a fydd yn atal Llywodraeth y DU, pa liw bynnag yw Llywodraeth y DU honno, rhag gwneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ein prif statud datganoli. Fel mater o egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol, ni ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei addasu drwy reoliadau wedi eu gwneud gan Weinidogion y DU, Dirprwy Lywydd. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys pŵer sydd i bob pwrpas yn ychwanegu cyfyngiadau wedi eu nodi yn Neddf 2006 sy'n berthnasol i wneud deddfwriaeth sylfaenol gan y Senedd hon at broses gwneud rheoliadau Gweinidogion Cymru. Nawr, byddem ni'n dweud bod hwn yn bŵer anarferol ac annymunol. Mae'r ffaith bod anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch pa ddarpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â materion wedi eu datganoli, ac nad yw cwmpas y Bil yn fwy cyffredinol wedi ei egluro eto, hefyd yn peri pryder.
Fel fy sylw olaf, rwy'n tynnu sylw at y ffaith bod ein hystyriaeth o'r memorandwm wedi rhoi enghraifft o gymhlethdodau'r oes ar ôl ymadael â'r UE. Mae gweithredu'r Bil, os caiff ei ddeddfu ac ar ôl i hynny ddigwydd, yn caniatáu cyflwyno nifer o drefniadau domestig a rhyngwladol o ganlyniad uniongyrchol i'r DU yn ymadael â'r UE. Er mwyn rhoi rhai enghreifftiau, mae darpariaethau'r Bil yn cyd-fynd â fframweithiau cyffredin a chytuniadau rhyngwladol, ac maen nhw'n gweithredu ochr yn ochr â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a system fewnfudo newydd y DU. Ac nid datganiad gwleidyddol yw hwn; mae'n ddatganiad ffeithiol. Felly, byddem ni'n dadlau:
Mae'n hanfodol bod y Senedd yn rhoi sylw manwl i'w heffaith gyfunol ac yn gallu parhau i chwarae rhan lawn o ran diogelu buddiannau gorau Cymru yn sgil y trefniadau newydd hyn. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Hoffem ni groesawu cyflwyniad Bil Cymwysterau Proffesiynol Llywodraeth y DU, a fydd yn hwyluso'r broses o drosglwyddo i ddinasyddion yr UE sydd â chymwysterau proffesiynol gael cydnabyddiaeth o'u cymwysterau a chaniatâd i weithio yn y DU. Bydd y cynigion hyn yn ei gwneud yn haws i weithwyr proffesiynol a busnesau lywio tirwedd reoleiddio y DU drwy symleiddio'r broses. Bydd y Bil yn rhoi'r pŵer i weinyddiaethau datganoledig roi'r gallu i'w rheoleiddwyr ymrwymo i drefniadau â phartneriaid rhyngwladol. Bydd yn caniatáu i'r cyfreithiau newydd helpu i fodloni gofynion proffesiynau unigol ledled y wlad. Bydd y cynigion hyn yn creu dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r rheolau sy'n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol ac yn sicrhau bod gan y DU y gallu parhaus i ddefnyddio'r bobl ddawnus orau a disgleiriaf ledled y byd, a fydd yn helpu i ymdrin â'r bwlch sgiliau yr ydym ni'n ei wynebu yng Nghymru. Rydym ni'n nodi bod Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ac rydym ni'n nodi eu pryderon hefyd, ond ar hyn o bryd byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru a'r Aelodau eraill i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Diolch yn fawr iawn i'r ddau bwyllgor am eich gwaith trwyadl yn edrych ar hyn i gyd. Mae'r gwaith mae eich pwyllgor chi yn ei wneud, nid yn unig efo'r Bil yma ond efo'r holl ddeddfwriaeth sydd yn dod lawr atom ni yn sydyn iawn, yn hollbwysig. Fedrwn ni ddim gadael i'r materion yma fynd o dan y radar. Mae'n hollbwysig eu craffu nhw yn ofalus, a dwi'n gweld eich bod chi yn gwneud hynny.
Mae'n egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon gael ei ddiwygio drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion y Deyrnas Unedig. Mae'r Mesur Cymwysterau Proffesiynol yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol neu’r Arglwydd Ganghellor i wneud rheoliad sydd yn diwygio Deddfau'r Senedd. Mae pwerau yn y Bil a allai addasu Deddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd. Ac felly, am y rhesymau yna, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn yr LCM ac yn gobeithio y bydd pawb yn pleidleisio yn ei erbyn o ac yn cydnabod y peryglon cyfansoddiadol sydd yn dod yn ei sgil.
Dwi'n falch iawn o glywed fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei argyhoeddi bod angen y mwyafrif o'r mesurau yn y Bil, ac mae'r Llywodraeth o'r farn bod y pwerau cydredol a geir yn y Bil yn tanseilio pwerau hir sefydlog y Senedd a Gweinidogion Cymru i reoleiddio mewn perthynas â materion sydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Mae gan Weinidogion Cymru a rheoleiddwyr sydd wedi'u datganoli eisoes y pwerau sydd eu hangen er mwyn gweithredu'r polisi a'r rheoliadau cyfredol ac arfaethedig sydd o fewn y meysydd cymwysedig datganoledig, gan gynnwys pwerau i gydnabod pob cymhwyster tramor fesul achos.
Mi rydym ni, fel y Llywodraeth, yn bryderus ynglŷn â chwmpas y Bil, ac yn ansicr hefyd ydy addysg bellach yn cael ei chynnwys o fewn y Bil. Felly, ar sail yr hyn rydym ni wedi ei glywed ac oherwydd y pryderon mawr a'r perygl i'r egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol sydd dan sylw yn y fan hyn, dwi'n erfyn arnoch chi i bleidleisio yn erbyn, a dwi'n edrych ymlaen at weld y bleidlais honno'n un cadarnhaol yma y prynhawn yma.
Jest gair byr ar hyn os yw hynny'n iawn. Dwi'n cytuno'n hollol efo'r Gweinidog ac yn ddiolchgar iawn i chi am beth rydych chi wedi'i ddweud.
Rwyf i wedi fy siomi, ond nid wyf i'n synnu clywed am fethiant Llywodraeth y DU eto—unwaith eto—i ymgysylltu â Gweinidogion Cymru ar fater sydd yn amlwg wedi ei ddatganoli i ni yma yng Nghymru. Mae rhuthro'r Bil hwn trwy Dŷ'r Cyffredin yn nodweddiadol o ddirmyg Llywodraeth y DU at y gwledydd datganoledig.
Mae Cymru'n cychwyn ar y gyfres fwyaf o ddiwygiadau addysgol ers yr ail ryfel byd ac mae mor bwysig bod trefniadau cymwysterau ledled y DU yn y dyfodol yn adlewyrchu ein dull gwahanol ac unigryw o ymdrin ag addysg yma yng Nghymru. Mae gan y Bil hwn y potensial i danseilio rheoleiddwyr Cymru a sectorau allweddol ein heconomi ni ac ni ddylem ni gefnogi hyn. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i bob cyfrannwr yn y ddadl heddiw a chydnabod yr hyn a wnaeth Paul Davies ei ddweud ynglŷn â gwaith y pwyllgor, a diolch iddo a'r pwyllgor am eu gwaith yn hyn o beth?
A gaf i ddiolch hefyd i Huw Irranca-Davies a'r pwyllgor am eu gwaith, fel y gwnes i sôn ar y dechrau, ac am ei amynedd o ran y cwestiwn ynghylch ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad? Gallaf i ei sicrhau y byddwn ni yn derbyn yr argymhellion yn llawn. Yn rhannol, mae'n fater o amseru, sy'n amlygu'r darlun ehangach, ac rwy'n gwybod bod ei bwyllgor wedi bod yn pryderu am hyn yn eu hadroddiad.
Y dyfarniad yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yma yw cyflwyno dadl gynnar fel bod modd clywed llais y Senedd yn uchel a'i fod yn rhoi'r cyfle gorau iddo gael ei ystyried. Rwyf i yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried cryfder y teimlad sydd wedi ei ddisgrifio heddiw gan bob siaradwr, rwy'n credu, ar wahân i un. A byddwn i'n dweud wrth Laura Anne Jones nad dadl yw hon ynghylch a ydym ni'n credu y dylai cymwysterau gael eu cydnabod neu y dylai cynnal pethau ar sail drefnus, gydweithredol ledled y DU; mae'n ymwneud â lle mae'r pwerau hynny yn gorwedd ac a yw Llywodraeth y DU yn parchu'r ffin ddatganoli a'r setliad datganoli. Dyna sydd wrth wraidd y drafodaeth heddiw, nid y gred na ddylem ni fod yn cydnabod cymwysterau rhyngwladol. Mae'r pwerau hynny eisoes yn bodoli; maen nhw'n bodoli yma.
Hoffwn i adleisio un pwynt a wnaeth Huw Irranca-Davies am yr effaith gronnus yma. Rwyf i yn credu ei bod yn bwysig iawn gweld y darlun mawr, oherwydd gallwn ni ganfod tueddiadau gofidus iawn yn y ffordd y mae ef wedi ei disgrifio. Mae'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn adleisio, rwy'n credu, nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelodau wedi eu gwneud heddiw. Rydym ni yn gweld yma, yn ogystal â'r cwestiwn ynghylch pwerau cydredol y gwnes i eu crybwyll ar y dechrau, bwerau Harri VIII, ac mae effaith gyfunol y pwerau hynny ynghyd â phwerau cydredol yn ergyd niweidiol iawn, rwy'n credu, i'r setliad datganoli, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn myfyrio ar hynny yn y ddadl heddiw ac yn pleidleisio i atal cydsyniad.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ocê, rwy'n credu roedd hwnna'n wrthwynebiad, felly, ac fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar hynny tan y cyfnod pleidleisio.
Dwi'n mynd i awgrymu ein bod ni'n cymryd toriad byr nawr tra ein bod ni'n disgwyl i ambell i Aelod ddod i'r Siambr ar gyfer yr eitem nesaf. Felly, rŷn ni'n cymryd toriad byr.