Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 5 Hydref 2021.
Diolch, Llywydd. Gwnaethom drafod yr achos dros drethi newydd am y tro cyntaf yn 2017, gan ddechrau trafodaeth genedlaethol ar sut y gallai pwerau trethu newydd ddarparu cyfleoedd i'n helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Dros bedair blynedd yn ddiweddarach, nid yw'r cyfleoedd hynny ar gael i ni o hyd.
Mae Deddf Cymru 2014 yn caniatáu datganoli trethi newydd a phresennol y DU, ond nid yw'n rhoi llawer o fanylion am sut y byddai'r broses honno'n gweithio. Gweithiodd Llywodraethau Cymru a'r DU gyda'i gilydd i gynllunio yn ofalus proses a fyddai'n galluogi cyflwyno trethi datganoledig newydd, gan barchu buddiannau'r ddwy Lywodraeth. Mae dau gam penodol i'r broses. Y cam cyntaf yw datganoli'r pwerau. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynnig gael ei ddatblygu, ac ymgynghori arno, cyn ei gyflwyno i Senedd y DU a'r Senedd hon er mwyn cytuno i ddatganoli a derbyn y pwerau. Yr ail gam yw i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r cynigion polisi a deddfwriaethol manwl i'r Senedd hon i gyflwyno'r dreth newydd.
Nodwyd treth ar dir gwag gennym fel y dreth newydd gyntaf y byddem ni'n ceisio cymhwysedd i ddefnyddio'r broses rynglywodraethol y cytunwyd arni. Fe wnaethom ddewis treth ar dir gwag oherwydd gall chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i ddarparu mwy o dai, a chefnogi adfywio ein trefi a'n cymunedau. Fe wnaethom ddewis treth ar dir gwag hefyd oherwydd ein bod yn credu bod yr achos dros ddatganoli yn glir ac yn syml, ac y byddai hyn yn caniatáu i ni brofi a mireinio'r broses ar gyfer datganoli trethi eraill.