Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 5 Hydref 2021.
Hoffwn ddiolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd, yn fy marn i, wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn, ac fe wnaf ddechrau drwy ddweud fy mod yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd swyddogaeth Trysorlys EM wrth asesu a chraffu ar ein cais, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw gynnig ar gyfer trethi datganoledig newydd yn cael effeithiau anfwriadol neu annymunol ar gydlyniant system dreth y DU yn gyffredinol.