Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 5 Hydref 2021.
A dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud yn llawn ac yn agored â swyddogion Trysorlys EM dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan roi nifer o ddogfennau i Lywodraeth y DU sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf a nodir yn y papur gorchymyn, gan gynnwys y senarios lle mae treth yn debygol o fod yn gymwys a pheidio â bod yn gymwys, pwy fyddai'r targed a fwriedir ar gyfer unrhyw dreth, rhyngweithiadau posibl â threthi datganoledig a threthi a gadwyd yn ôl, seiliau treth a refeniw treth, ac effeithiau ar system dreth y DU ar gyfer datganoli'r pŵer hwn. Arweiniodd y gwaith hwn at bapur ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a swyddogion Trysorlys EM, gan argymell bod y deunydd a ddarparwyd hyd yma yn sail i Lywodraeth Cymru ysgrifennu'r cais ffurfiol hwnnw i Lywodraeth y DU.
Felly, pan gyfarfûm ag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar y pryd, yn ôl ym mis Chwefror, yr oedd ar y ddealltwriaeth bod digon o wybodaeth wedi'i darparu gan Lywodraeth Cymru a bod Trysorlys EM yn fodlon i'n cynnig fynd ymlaen i gam nesaf y broses, a fyddai wedi'i gytuno rhwng ein dwy Lywodraeth i ddatganoli'r pwerau newydd. Ac ni wnaeth Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar y pryd nodi ei fod o'r farn nad oedd y cynigion wedi'u datblygu'n ddigonol i symud ymlaen, ac nid wyf yn glir o hyd pa bryderon penodol sydd wedi codi rhwng mis Chwefror a nawr a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddychwelyd i ddechrau'r broses. Paratowyd Gorchymyn drafft y Cyfrin Gyngor, yn ogystal â memorandwm esboniadol, a oedd yn dangos sut y byddai'r wybodaeth a ddarparwyd yn cefnogi hynt y Gorchymyn drafft drwy Senedd y DU a'r Senedd hon. A fy ngobaith i yw y bydd Ysgrifennydd Ariannol newydd y Trysorlys yn cael ei gysuro gan lefel y manylion yr ydym ni eisoes wedi'u darparu, ac yn cydnabod ein bod, drwy gydol y broses hon, wedi bod yn fwy na pharod i ddarparu cymaint o fanylion ag y gallem ni.
Ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud gan Lywodraeth Cymru ar sut y byddai unrhyw dreth ar dir y nodwyd ei bod yn addas i'w datblygu yn y dyfodol yn gymwys yng Nghymru. Ac, fel yr ydym wedi'i amlinellu droeon, bydd y gwaith polisi manwl hwn yn digwydd ar ôl i'r dreth gael ei ddatganoli i Gymru a bydd yn dilyn proses briodol drwyadl yma yng Nghymru. Ac mae llawer o'r cyfraniadau o feinciau'r Ceidwadwyr heddiw wedi bod yn ymwneud â phriodoldeb y dreth, a dymunoldeb y dreth, ac mae'n gwbl briodol bod y trafodaethau hynny'n cael eu cynnal yma a bod y gwaith craffu'n cael ei wneud yma yn y lle hwn, ac mae hynny, rwy'n credu, yn greiddiol i bwynt y ddadl hon heddiw. Os gallwn ni symud ymlaen i gam nesaf y broses ac mae ymgynghoriad yn y DU yn tynnu sylw at unrhyw senarios neu faterion allweddol nad ymdrinnir â nhw yn yr wybodaeth yr ydym ni eisoes wedi'i darparu, yna wrth gwrs mae fy swyddogion a minnau wedi ymrwymo i weithio gyda Thrysorlys EM i sicrhau bod gan Lywodraeth y DU ddigon o fanylion i lywio asesiad ystyriol. Ond, mewn gwirionedd, heb unrhyw symudiad brys, mae gwir angen adolygiad o'r broses.
Felly, gan siarad yn fwy cyffredinol, rwy'n credu bod y Llywodraeth Llafur Cymru hon wedi profi y gellir ymddiried ynddi ar dreth. Mae ein penderfyniadau'n seiliedig ar set gref o egwyddorion treth, sef y dylai ein trethi ni yma yng Nghymru godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl, cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, ac yn enwedig cefnogi swyddi a thwf, bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml, cael eu datblygu drwy gydweithio ac ymglymiad, ac wrth gwrs cyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal. Ac mae'r egwyddorion hynny wedi'u hamgylchynu gan ein fframwaith polisi treth, a ddatblygir ar y cyd â rhanddeiliaid, ac mae llawer o waith yn mynd rhagddo i ddatblygu hynny drwy gydol y flwyddyn drwy wahanol fathau o ymgysylltu â phobl sydd â buddiant. A hefyd, mae gennym 20 mlynedd o brofiad yma o ran gwneud trethiant lleol. Rydym wedi gweithio i wneud y dreth gyngor yn decach ac rydym wedi gwneud cynnydd da iawn o ran hynny—dileu'r bobl ifanc sy'n gadael gofal o faich y dreth gyngor er enghraifft, a sicrhau ein bod yn dileu'r gosb o garchar i bobl nad ydynt yn talu, nad ydynt yn gallu talu, eu treth gyngor, oherwydd, wrth gwrs, ni ddylid ystyried ei fod yn drosedd. O ran cyfraddau treth incwm Cymru, gwnaethom gadw ein haddewid drwy gydol y Senedd ddiwethaf. Ni wnaethom godi cyfraddau treth incwm Cymru. Ac rydym wedi addo yn y Senedd hon i beidio â chynyddu baich cyfraddau treth incwm Cymru ar deuluoedd a phobl yma yng Nghymru cyhyd ag y teimlir effeithiau economaidd y pandemig, a byddwn yn cadw'r addewid hwnnw. Cymharwch a gwrthgyferbynnwch hynny â'r dull gweithredu dros y ffin, wrth gwrs, gyda'r cynnydd diweddar mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, a wnaed heb unrhyw ddealltwriaeth wirioneddol o'r effaith amrywiol y byddai'n ei chael, felly ni allaf gymryd unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr ar y mater hwnnw y prynhawn yma.
O ran treth trafodiadau tir, rydym wedi gwneud penderfyniadau gwahanol yma yng Nghymru ac rydym wedi gwneud y penderfyniadau sy'n iawn i Gymru. Felly, yng Nghymru, cawsom y rhyddhad i brynwyr tro cyntaf ac yn hytrach darparwyd rhyddhad ar gyfer pob prif eiddo preswyl hyd at £180,000, ac mae hynny'n agos at bris cyfartalog tai yma yng Nghymru, sy'n golygu bod gennym system lawer mwy priodol yma ar gyfer ein marchnad dai a hefyd un sy'n fwy blaengar. Ac ym mis Rhagfyr, byddwch yn cofio i ni gyhoeddi gostyngiad o 1 pwynt canran yn y cyfraddau treth trafodiadau tir dibreswyl i helpu busnesau drwy'r pandemig a hefyd, ychwanegwyd 1 pwynt canran ychwanegol at gyfraddau uwch treth trafodiadau tir. Ac, wrth gwrs, nid oeddem yn cynnwys landlordiaid prynu i osod na phrynu ail gartref yn ein gwyliau treth yn ystod y pandemig a ni oedd yr unig ran o'r DU i wneud y penderfyniad hwnnw.
Ac yna, o ran treth gwarediadau tirlenwi, rydym wedi gweld cyfleoedd penodol i ni yng Nghymru a ni oedd y cyntaf i gyflwyno'r band gwastraff anawdurdodedig ac, wrth gwrs, mae rhannau eraill o'r DU bellach yn dilyn hynny. Ac yna, hoffwn bwysleisio fy mod yn wirioneddol falch o Awdurdod Cyllid Cymru a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud o ran casglu ein trethi Cymreig. Unwaith eto, mae hyn yn destun balchder arbennig i ni o ran ansawdd y gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu a'r berthynas wahanol yr ydym yn ei sefydlu yma yng Nghymru gyda threthdalwyr.
Felly, i gloi, Llywydd, mae gennym yr egwyddorion, mae gennym y fframwaith, mae gennym yr ymgysylltiad â rhanddeiliaid, mae gennym y profiad ac mae gennym hanes profedig ym maes trethi, sy'n dangos y gellir ymddiried yn y Llywodraeth Llafur Cymru hon ar dreth.