Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi gweithio gyda nyrsys ar hyd fy oes, ac mae'n iawn ein bod yn cydnabod cyfraniad ein holl weithwyr gofal iechyd ar draws y GIG a gofal cymdeithasol. Gwyddom fod y 18 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol. Fel cymaint o rai eraill yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'r rheini ar y rheng flaen ym maes gofal wedi bod yn dyst i drasiedi ddynol y pandemig. Mae adroddiad corff adolygu cyflogau'r GIG, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn adroddiad eithriadol o fanwl sy'n seiliedig ar gorff sylweddol o dystiolaeth, cyflwyniadau a dadansoddiadau. Mae'r ddogfen yn cynnwys amryw o bwyntiau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a nododd y byddai penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn ag a fyddai unrhyw arian ychwanegol sydd ei angen yn dod o gyllidebau presennol maes o law.
Mae pob un ohonom yn cydnabod y byddai angen i Weinidogion Cymru a fyddai'n gwneud unrhyw godiad pellach i gyflog staff ddod o hyd i'r arian hwnnw o'r cyllidebau presennol, ac yn eu tystiolaeth i'r adolygiad, dywedodd Llywodraeth Cymru, po uchaf y dyfarniad cyflog, yr anoddaf fyddai'r dewisiadau ynglŷn â sut i ddod o hyd iddo a blaenoriaethau eraill i GIG Cymru. Rwy’n falch fod Llywodraeth Geidwadol y DU nid yn unig wedi darparu £8.6 biliwn i Gymru yn yr ymdrech i frwydro yn erbyn y coronafeirws, yn ychwanegol at fwy na £2.1 biliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22, ond eu bod wedi cyhoeddi hefyd y byddant yn buddsoddi £1.9 biliwn ychwanegol yn GIG Cymru dros y tair blynedd nesaf. Yn fy marn i, os yw Llywodraeth Cymru eisiau talu am godiadau pellach, prin y gallant ddweud eu bod yn brin o arian. Rwy'n cydnabod pa mor anodd yw hyn i lawer o staff sy'n credu y dylid gwobrwyo eu cyfraniad.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n teimlo yr un fath am ein staff gofal cymdeithasol hefyd. Yn y pandemig, i raddau helaeth fe anwybyddodd y cyfryngau a'r naratif gwleidyddol waith y rheini sy'n gofalu am lawer o bobl hŷn a oedd yn agosáu at ddiwedd eu bywydau oherwydd COVID-19, gan brofi'r trawma yn y sector cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio, lle'r oedd trigolion yn marw ar gyfradd gyflymach, a lle daeth yr aelodau hynny o staff yn aelodau teuluol ar fenthyg yn yr oriau olaf hynny, wrth iddynt eu cysuro ar y diwedd. Datgelodd y pandemig pa mor wael yw ein cydnabyddiaeth o gyfraniad ein staff gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid inni unioni hyn. Ac er fy mod yn croesawu'r cynigion i fynd i'r afael â chyflog fel rhan o drefniadau comisiynu newydd ar gyfer y gwasanaethau gofal cymdeithasol, mae angen inni fod yn gadarn wrth lywio mwy o arian tuag at gefnogi'r rhan hanfodol hon o'n sector iechyd a gofal. Diolch yn fawr iawn.