10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:53, 6 Hydref 2021

Eisoes, yn y Senedd yma, rydyn ni wedi trafod yr egwyddor o UBI a'r pwysigrwydd o roi urddas i bobl trwy eu bod nhw'n cael incwm digonol i fyw. Y Llywodraeth Lafur, wrth gwrs, ddaru gyflwyno'r isafswm cyflog er mwyn trio rhoi rhyw lefel o sicrwydd ac urddas i'r gweithlu. Mae'r egwyddor sylfaenol, felly, o gael cyflog teg am eich gwaith, gan roi urddas i bobl, wedi hen basio. Ond eto, dyma ni yn 2021 yn gorfod dadlau dros roi cyflogau teg i weithwyr—cyflog sy'n adlewyrchu eu gwaith, eu hymrwymiad a'u gallu, ac, yn wir, cyflog fydd yn denu pobl i yrfa o ofal.

Mae dros hanner gweithlu y gwasanaeth iechyd yn brif gyfranwyr incwm i'w haelwydydd. Mae degau o filoedd o deuluoedd yng Nghymru yn ddibynnol ar gyflogau nyrsys er mwyn medru byw, cadw to uwch eu pennau a bwyd yn eu boliau. Yn fwy syfrdanol fyth, mae un o bob pump o'r gweithlu yn gorfod cael cyflogaeth arall ar ben gweithio i'r gwasanaeth iechyd. Onid yw hyn yn ei hun yn ddigon i ddangos pwysigrwydd cyflogaeth y gwasanaeth iechyd, ac nad yw cyflog bresennol y gweithlu yn ddigonol i nifer o bobl? 

Yn ôl ymchwil drylwyr y Royal Society for Arts, Manufactures and Commerce, mae bron i 60 y cant o weithlu y gwasanaeth iechyd yn methu â chael balans teg rhwng bywyd a gwaith, a hynny oherwydd eu bod nhw'n gweithio fwy o oriau nag maen nhw'n cael eu talu amdanyn nhw, ac yn aml yn gweithio sifftiau anghymdeithasol. Yn wir, mae tri chwarter y gweithlu nyrsio yn dweud eu bod nhw'n gweithio goramser, gan arwain at gynnydd mewn lefelau straen ac afiechydon meddwl, ynghyd â phroblemau eraill. Mae hyn, yn ei dro, yn gostus i'r gwasanaeth iechyd. Datgelodd cais rhyddid gwybodaeth i fwrdd iechyd y gogledd cyn y pandemig fod 77,000 o ddiwrnodau staff wedi cael eu colli o ganlyniad i straen, oedd yn gyfwerth â £5.5 miliwn i'r gwasanaeth. Does dim syndod felly fod nifer uchel o bobl yn gadael gweithlu'r gwasanaeth iechyd, ond mae'r pres yno ond yn cael ei roi i'r mannau anghywir. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth a chostau llawer iawn uwch i'r gwasanaeth iechyd—degau o filiynau o bunnoedd y flwyddyn, ac yn cynyddu yn flynyddol.

Bythefnos yn ôl cafwyd dadl yma am y gwasanaeth ambiwlans, a phawb yn gytûn fod y diffyg gwelyau yn yr ysbytai yn rhan greiddiol o'r broblem. Er mwyn diwallu hynny, rhaid wrth gwrs gael rhagor o nyrsys, ac mae'n wybyddus bellach, ers degawd a mwy, am y prinder staff nyrsio. Mae gwaith Anne Marie Rafferty'n dangos yn ddiymwad fod prinder nyrsys yn arwain at gynnydd yng nghyfradd marwolaethau ymhlith cleifion. Mae diffyg nyrsys yn arwain at fwy o ddamweiniau, camgymeriadau a chynnydd mewn heintiau. Ydyn ni'n wirioneddol yn disgwyl diwallu'r anghenion nyrsio heb roi cyflog teg iddyn nhw? A phwy yw'r bobl sydd yn dioddef mwyaf o'r ansicrwydd economaidd yma?