Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 6 Hydref 2021.
Aeth dros 40 mlynedd heibio ers i'r Unol Daleithiau ddatgan eu rhyfel yn erbyn cyffuriau. Ers hynny, mae gwahanol weinyddiaethau ar draws y byd wedi copïo'r uwch-bŵer ac wedi dilyn polisi o fabwysiadu dull llym o fynd i'r afael â chyffuriau, ond heb fawr o dystiolaeth ei fod yn trechu dibyniaeth, neu'n trechu'r gafael sydd gan gangiau troseddol ar yr ardaloedd lle maent yn gweithredu. Mae'r ffaith bod y rhyfel honedig hwn yn dal i gael ei ymladd, heb unrhyw ddiwedd yn y golwg, yn dweud rhywbeth. Mae'r DU, o dan wahanol Lywodraethau dros y blynyddoedd, wedi dilyn ôl troed ei chyfaill ar draws yr Iwerydd yn ôl y disgwyl, a hynny gyda chanlyniadau hawdd eu rhagweld. Mae marwolaethau cyffuriau yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel mewn rhannau helaeth o'r DU. Rhaid inni gofio bod cost ddynol y tu ôl i bob marwolaeth, cost sy'n taro ffrindiau a theulu'r ymadawedig am flynyddoedd wedyn. Fel gyda phob ystadegyn, ni ddylem byth golli golwg ar y gost ddynol i gymdeithas ac i'n cymunedau, ac ni ddylem anghofio am y llanastr y mae'r polisi hwn yn ei achosi mewn gwledydd lle bydd cartelau cystadleuol yn ymladd yn ddyddiol dros gynhyrchiant cyffuriau. Mae Mecsico yn enghraifft wych o wlad sydd wedi'i dadsefydlogi o ganlyniad i'r polisi cyffuriau hwn.
Yr hyn rwyf am ei wneud heno yw dadlau o blaid sgwrs genedlaethol sy'n ceisio sefydlu system well, fwy tosturiol wedi'i harwain gan brofiad o drin pobl sy'n gaeth i gyffuriau. Mae angen inni ddeall profiad bywyd yr holl bobl dan sylw, a rhoi ystyriaeth briodol i bob ateb posibl. Pa blaid bynnag a gynrychiolwch yn y Senedd, neu beth bynnag yw eich barn am gamddefnyddio sylweddau neu gaethiwed, rwy'n gobeithio y gallwn gytuno nad yw'r sefyllfa bresennol yn gweithio. Os nad ydych wedi eich argyhoeddi, efallai y gallech ofyn i chi'ch hun, os oedd y rhyfel yn erbyn cyffuriau'n gweithio, pam na ddaeth i ben genedlaethau yn ôl.
I ddychwelyd at yr ystadegau, nid yw'r darlun yng Nghymru cynddrwg ag mewn rhannau o Loegr, yn ôl ystadegau diweddaraf 2020. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cofnododd Cymru ei chyfradd isaf o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau ers 2014. Roedd y gyfradd o 51.1 o farwolaethau ym mhob miliwn o bobl hefyd yn is na chyfradd Lloegr o 52.1 o farwolaethau ym mhob miliwn. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol gafeat pwysig wrth ryddhau'r ffigurau hyn, sef y gallai oedi yn y broses o gofrestru marwolaethau yng Nghymru fod wedi effeithio ar y ffigur. Fodd bynnag, ddegawd yn unig yn ôl, roedd gan Gymru gyfradd genedlaethol o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau a oedd yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr. Felly, efallai fod marwolaethau cyffuriau i lawr yng Nghymru ar ôl cyrraedd uchafbwynt erchyll, ond maent yn dal i fod yn rhy uchel. A yw'n bosibl y gallai ymagwedd wahanol gynhyrchu canlyniadau gwell? A allai ymagwedd wahanol leihau nifer y marwolaethau, lleihau'r defnydd o gyffuriau a lleihau'r dylanwad niweidiol a gaiff gangiau cyffuriau ar ein cymunedau yng Nghymru?
Mae un o'r enghreifftiau rhyngwladol mwyaf syfrdanol o ymarfer da i'w gweld ym Mhortiwgal. Roedd problem gyffuriau ddifrifol iawn yn arfer bodoli yno. Yn y ddau ddegawd ers iddynt ddad-droseddoli cyffuriau, maent wedi lleihau nifer y marwolaethau'n sylweddol yn ogystal â'r niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Yn sgil y penderfyniad ymwybodol hwn i ddatblygu dull o weithredu ar sail iechyd, caiff y rhai sy'n cael eu dal gyda chyffuriau at ddefnydd personol yn eu meddiant eu trin yn weinyddol yn hytrach na'u dedfrydu i garchar. Golyga hyn nad yw'n arwain at gofnod troseddol. Mae cyffuriau'n dal i gael eu cymryd oddi arnynt, a gall meddiant arwain at ddirwy neu wasanaeth cymunedol yn y pen draw. Pa mor fuddiol y gallai ymagwedd o'r fath fod yma yng Nghymru, lle mae gennym rai o'r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop?
A pha mor effeithiol y bu'r polisi ym Mhortiwgal? Fel y nododd gwefan Transform mewn erthygl ddiweddar ym mis Mai eleni, ac rwy'n dyfynnu,
'Yn 2001, roedd cyfraddau marwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal yn debyg iawn i gyfartaledd yr UE. Tra bod cyfraddau wedi gostwng ym Mhortiwgal yn sgil diwygio, cynyddu a wnaethant ar draws gweddill Ewrop yn yr un cyfnod o amser. O 2011 ymlaen mae Portiwgal a gweddill yr UE wedi dangos tueddiad tebyg, gan godi tan 2015/6—ond mae'r bwlch rhwng y ddau'n parhau i fod yn llawer mwy na'r hyn ydoedd cyn y diwygio. Mewn termau real, mae cyfraddau marwolaethau cyffuriau ym Mhortiwgal yn parhau i fod ymhlith rhai o'r isaf yn yr UE: 6 marwolaeth ym mhob miliwn ymhlith pobl 15-64 oed, o'i gymharu â chyfartaledd yr UE o 23.7 y miliwn (2019). Mae bron iawn yn amhosibl eu cymharu â'r 315 o farwolaethau y miliwn ymhlith rhai rhwng 15 a 64 oed a welwyd yn yr Alban, sydd dros 50 gwaith yn uwch na chyfraddau Portiwgal.'
Diwedd y dyfyniad. Nid yw'n syndod fod gwledydd a rhanbarthau eraill ledled y byd yn dechrau sylwi ar y gwersi y gellir eu dysgu gan Bortiwgal.
Nid wyf am i'r ddadl fer hon fod am gyffuriau anghyfreithlon yn unig, pan fo alcohol yn achosi cymaint o ddioddefaint mewn cymunedau a theuluoedd ledled Cymru. Byddwn ar fai pe na bawn yn sôn am alcohol pan fo ystadegau wedi awgrymu'n flaenorol fod oddeutu 10 o bobl yn marw bob wythnos yng Nghymru o achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol. Amcangyfrifir hefyd fod oddeutu 60,000 o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru oherwydd alcohol, gan gostio tua £159 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Gyda'r GIG yn gwingo o dan y pwysau, rhaid bod dod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael ag effeithiau andwyol camddefnyddio alcohol yn flaenoriaeth. Rwyf am inni gyrraedd sefyllfa lle mae pobl sy'n cymryd y cam dewr o ofyn am gymorth i oresgyn caethiwed, boed ar gyfer cyffuriau neu ar gyfer alcohol, yn gwybod y bydd cymorth cynhwysfawr ar gael pan fydd ei angen arnynt.
Nid wyf yn esgus fod yr holl atebion gennyf—nid wyf yn credu bod unrhyw un yn meddu ar yr holl atebion—ond hoffwn ddechrau trafodaeth yma heddiw ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn fwy effeithiol a sicrhau bod pobl sy'n gaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Rwyf am i'r gwahanol asiantaethau sy'n gyfrifol am gynorthwyo'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau ddod at ei gilydd yn rheolaidd i siarad am eu problemau a'u sylwadau gydag Aelodau o'r Senedd. Dyna pam rwy'n mynd ati i ddechrau grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau fel y gallwn ddatblygu arferion gorau. Rwyf wedi cael cefnogaeth asiantaethau allweddol fel Kaleidoscope eisoes, ond rwy'n gobeithio y bydd llawer o sefydliadau a ffigurau eraill yn ymuno â ni. Rwyf hefyd wedi cael cefnogaeth mwy na dau Aelod o'r Senedd o wahanol bleidiau i ffurfio'r grŵp trawsbleidiol; rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy ohonoch yn ymuno.
Yr hyn yr hoffwn i a fy mhlaid ei weld yw datganoli pwerau cyfiawnder i Gymru yn y pen draw, a phan fydd hynny'n digwydd, ein bod yn llunio system sy'n dosturiol, yn lleihau niwed ac yn rhyddhau'r gafael sydd gan lawer o gangiau troseddol ar y gwan a'r bregus yn ein cymunedau. I'r perwyl hwnnw, rwy'n gobeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth chi, Weinidog, i ymgysylltu â'r grŵp hwn a datblygu polisi sy'n ceisio cyflawni'r nodau hyn a dechrau sgwrs ehangach sy'n arwain at ddull mwy effeithiol o fynd i'r afael â cham-drin sylweddau, camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth ar sylweddau. Diolch yn fawr.