Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 6 Hydref 2021.
Hoffwn ddiolch i Peredur am gyflwyno'r ddadl fer hon, a gallaf gadarnhau y byddaf yn edrych ymlaen yn fawr at ymuno â'i grŵp trawsbleidiol. Mae Peredur yn iawn; nid yw'r rhyfel yn erbyn cyffuriau'n gweithio ac nid yw erioed wedi gweithio. Rydym wedi bod ar y groesffordd hon ers dros bedwar degawd. Y gwir amdani yw bod ein hanallu i gael sgwrs aeddfed am gyffuriau wedi arwain at ddioddefaint yn fyd-eang—dioddefaint defnyddwyr, dioddefaint cymunedau wedi'u chwalu gan asiantaethau'r Llywodraeth a chartelau troseddol sy'n ymladd am bŵer dros y farchnad.
Rwy'n llwyr gefnogi dad-droseddoli'r defnydd o gyffuriau. Mae'r dull llym o weithredu a fabwysiadwyd gennym fel cymdeithas ers degawdau yn troseddoli pobl a allai fod yn defnyddio cyffuriau'n feddyginiaethol neu fel adloniant heb niweidio eraill, ac nid yw troseddoli'r rhai sy'n gaeth yn gwneud dim i'w helpu i newid eu bywydau. Mae'n bwysig cofio nad yw dad-droseddoli yn cyfreithloni unrhyw gyffur. Yn hytrach, mae'n newid y modd y mae awdurdodau'n ymdrin â mân achosion o feddiant cyffuriau ac yn trin defnyddwyr fel rhai a allai fod yn fregus, yn hytrach na fel troseddwyr. Mae dad-droseddoli cyffuriau yn dileu'r stigma hwnnw ac yn cael cymorth i bobl pan fyddant fwyaf o'i angen.
Mae gennym enghreifftiau megis Portiwgal, fel y nododd Peredur, sy'n dangos i ni sut y gallwn wneud i hyn weithio. A gwyddom yn union beth sydd ei angen i wneud iddo weithio. Ac unwaith eto, hoffwn ailadrodd y bydd Plaid Cymru yn cefnogi ac yn galw am ddatganoli rhagor o bwerau cyfiawnder fel y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon yn awr. Mae angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith. Mae mor syml â hynny. Diolch.