1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 6 Hydref 2021.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog trafnidiaeth fwy gwyrdd? OQ56949
Diolch am eich cwestiwn. Mae ein strategaeth ar gyfer annog trafnidiaeth fwy gwyrdd wedi'i nodi'n glir yn 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021', sy'n ailadrodd ein hymrwymiad i gyflawni mwy o deithio llesol, mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel, a chreu cysylltiadau agosach rhwng cynlluniau defnydd tir a thrafnidiaeth yn unol â'r cynllun aer glân i Gymru.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae gennyf deimlad eich bod wedi mwynhau'r cwestiwn hwnnw. Mae arolygon gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru yn dangos bod llawer o gwmnïau'n awyddus i ddefnyddio cerbydau trydan yn ystod y pump i 10 mlynedd nesaf, sy'n newyddion gwych. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae cost cerbydau trydan a diffyg seilwaith gwefru yn rhwystrau allweddol i fusnesau sy'n dymuno datgarboneiddio trafnidiaeth. Golyga'r gost hon fod busnesau bach mewn perygl o gael eu gadael allan o'r system gerbydau trydan, tra bo gan sefydliadau mwy o faint fwy o adnoddau, o bosibl, i gyflwyno'r dechnoleg newydd hon yn eu hamgylcheddau gwaith. Pa gynllun sydd gennych, Ddirprwy Weinidog, i gymell y newid i gerbydau trydan drwy gyflwyno cymhelliadau treth neu gynlluniau sgrapio fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol?
Diolch am eich cwestiwn pwysig, ac yn amlwg, rydym mewn cyfnod o newid o'r motor tanio mewnol i geir trydan, ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddwch yn gallu prynu ceir petrol neu ddiesel erbyn diwedd y degawd. Felly, mae hwn yn gynllun y bydd angen inni weithio'n agos arno gyda Llywodraeth y DU, oherwydd ar eich cwestiwn ynglŷn â chynlluniau sgrapio a chymelliadau treth, mae hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth y DU fod yn ei wneud. Nid yw'n rhywbeth y mae gennym allu i'w wneud. Ond mae ystod o bethau y gallwn eu gwneud, a chan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym ar fin cyhoeddi ein cynllun gweithredu ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae hwnnw'n nodi cyfres o bethau ymarferol yr ydym yn eu gwneud.
Ar y pwynt ynghylch fforddiadwyedd y cerbydau ac argaeledd y seilwaith ar hyn o bryd, yn amlwg, rydym ar y don gyntaf o ddatblygu. Maent yn ddrud am eu bod yn geir newydd sbon. Nid oes marchnad wedi datblygu eto ar gyfer ceir ail-law, felly, dros amser, bydd hynny'n newid, yn amlwg. O ran y seilwaith gwefru, mae gan Gymru oddeutu 2 y cant o gerbydau trydan ac mae gennym oddeutu 3.5 y cant o'r seilwaith gwefru cyhoeddus. Felly, wrth i gromlin y galw godi, fel y mae'n dangos arwyddion cynyddol o wneud, mae'n amlwg fod angen inni gynyddu'r seilwaith gwefru. Mae hynny'n rhywbeth a gaiff ei arwain gan y sector preifat. Nid yw'r Llywodraeth yn darparu gorsafoedd petrol; nid wyf yn disgwyl iddi ddarparu cyfleusterau gwefru ar raddfa fawr. Dylem ganolbwyntio ar edrych ar ble fydd y farchnad yn methu, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, fel sy'n digwydd gyda band eang, a mabwysiadu ymagwedd 'o'r tu allan i mewn'. Felly, mae gennym rôl i'w chwarae yn sicr, ond mae'n rôl i'w chwarae gyda llawer o rai eraill.
Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r buddsoddiad y byddwn yn ei weld yn y seilwaith gwefru yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, sef y £450,000 a fuddsoddir mewn cyfleusterau gwefru ar gyfer lleoedd parcio ar ymyl y palmant? Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ond a fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod trafnidiaeth fwy gwyrdd hefyd yn cysylltu â'r hyn a wnawn gydag annog pobl i ddewis teithio llesol hefyd? Ac a fyddai’n croesawu’r ffaith y bydd y grŵp trawsbleidiol, y caf y fraint o’i gadeirio ac y mae llawer o'r Aelodau yma'n aelodau ohono, yn lansio'r pecyn cymorth i ysgolion newid i deithio llesol gyda’r grŵp teithio llesol ddydd Mawrth nesaf yn ysgol Penyrheol yng Ngorseinon, gyda’r pennaeth a'r disgyblion yno? Oherwydd dyna'r gyfrinach nid yn unig i sicrhau bod plant yn newid i feicio a cherdded i'r ysgol, ond hefyd i sicrhau nad yw rhieni'n gyrru eu plant i'r ysgol, ac yn dewis cerdded gyda hwy a dod o hyd i ddulliau amgen. Felly, mae a wnelo hyn â dod â cheir oddi ar y ffordd yn ogystal â newid i geir trydan.
Credaf fod hwnnw'n bwynt hollbwysig—rydym am wneud mwy na newid y fflyd bresennol o geir o fod yn geir petrol a diesel i fod yn geir trydan; rydym yn awyddus i weld llai o geir ar y ffordd, am bob math o resymau fod ceir yn achosi niwed. Ond rydym am roi dewis i bobl, a gallwn wneud hynny drwy ddarparu clybiau ceir trydan—rhywbeth rwy'n awyddus iawn i'w weld—gyda chymunedau'n cael mynediad hawdd at glwb ceir fel nad oes angen iddynt fod yn berchen ar fwy nag un car yn y teulu. Ond hefyd, rydym yn edrych ar newid—. Dyma yw hanfod newid dulliau teithio—newid o geir i ddulliau eraill, trafnidiaeth gyhoeddus, a theithio llesol ar gyfer teithiau lleol.
Ac mae'n rhaid imi ganmol Huw Irranca-Davies am y gwaith a'r arweinyddiaeth y mae wedi'i dangos drwy'r grŵp teithio llesol. I'r Aelodau mwy newydd, sy'n dal i ymgynefino â grwpiau trawsbleidiol, byddwn yn dweud bod y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol ymhlith y mwyaf effeithiol, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y cyfranogiad trawsbleidiol, y ffaith ei fod yn dod â grwpiau o bob rhan o Gymru ynghyd, ac oherwydd y berthynas agos sydd gan Huw Irranca-Davies â'r Llywodraeth, wrth iddo fwydo'r her honno i Weinidogion er mwyn ceisio sicrhau newid. Ac rwy'n falch iawn eich bod yn lansio'r pecyn cymorth i ysgolion, oherwydd yn amlwg, mae addasu'r patrwm presennol o deithiau i'r ysgol yn rhan hanfodol o newid dulliau teithio, a phob lwc iddo gyda'r lansiad hwnnw.