1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 6 Hydref 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddoch, dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn hynod bryderus ynghylch nifer yr achosion o lygredd afon. Gwn nad fi yw'r unig un, gan fod nifer o achosion o lygredd wedi'u dwyn i fy sylw'n rheolaidd. Nawr, gadewch imi ddweud yn glir, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn sicr, nid wyf yn pwyntio bys at ein ffermwyr. Nawr, ar ôl gwneud gwaith ymchwil, rwy’n poeni am nifer y gollyngiadau gan Dŵr Cymru a wnaed drwy bob gorlif carthffosiaeth cyfunol dros y pedair blynedd diwethaf. Mae'r canfyddiadau'n frawychus iawn. Nifer y gollyngiadau a gofnodwyd gan Dŵr Cymru gan ddefnyddio'r dull cyfrif blociau 12/24 yn 2018 oedd 48,158; 2019—73,517; 2020—104,482, a hyd yn hyn eleni, 59,275. Fel rwyf wedi'i ddweud dro ar ôl tro, ac fel y mae nifer yn ein grŵp wedi adleisio, mae un achos o lygredd yn un yn ormod. Nawr, er bod angen sicrhau ansawdd y data ar gyfer eleni, mae'r ffigurau'n dangos bod cyfanswm yr holl ollyngiadau cyn prosesu drwy'r dull cyfrif 12/24 awr yn 516,270.5 awr. Felly, os rhannwch hynny â 24, down at y ffaith syfrdanol fod Cymru wedi cael gwerth 21,511 diwrnod o ollyngiadau di-stop eleni yn unig. Felly, a fyddech yn cytuno, Weinidog, y gellir ystyried y sefyllfa mewn perthynas â gorlifoedd cyfunol yng Nghymru yn argyfwng bellach? Diolch.
Wel, Janet, rydych yn gwneud pwynt da iawn, sef bod nifer o resymau pam fod angen inni edrych ar achosion o lygredd dŵr ledled Cymru, ac wrth gwrs, ni ellir priodoli'r cyfan i'r un ffynhonnell. Felly, mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd yn Nhîm Cymru i sicrhau ein bod yn lleihau unrhyw fath o ddigwyddiad llygredd sy'n effeithio ar ein lefelau trwythiad, dyfroedd ein hafonydd, ein dyfroedd mewndirol, neu yn wir, ein dyfroedd arfordirol, ac mae angen inni wneud hynny gyda'n gilydd. Felly, mae angen i bob sector weithio'n galed i wneud hynny. Mae angen i'n sectorau amaeth a ffermio weithio yr un mor galed â'r cwmnïau dŵr, yn amlwg, a'r cwmnïau carthffosiaeth, llygryddion diwydiannol ar lannau afonydd, a nifer fawr o bobl eraill sy'n dibynnu ar y cyrsiau dŵr, ac sydd angen i'r cyrsiau dŵr fod yn lân ac mewn cyflwr da.
Mae nifer o bethau i'w dweud am hynny. Yn gyntaf, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r cwmnïau dŵr ar hyn o bryd i sicrhau bod y mecanweithiau prisio a roddir ar waith yn caniatáu iddynt wneud y mathau cywir o fuddsoddiadau ar gyfer y dyfodol, fel y gallwn fuddsoddi yn y rhwydwaith a sicrhau ei fod yn effeithlon, yn effeithiol ac yn gweithio'n galed iawn.
Rydym hefyd yn cynnal adolygiad o nifer o feysydd rheoleiddiol i sicrhau bod y dadansoddiad presennol o bwy sy'n gwneud beth yn nhermau rheoleiddio, a bod gan Lywodraeth Cymru, cwmnïau fel Dŵr Cymru, cwmnïau cyfleustodau ac ati, CNC, awdurdodau lleol—gan fod buddiant gan bob un ohonynt—fod ganddynt y lefel gywir o fecanweithiau rheoleiddio a chyflenwi yn eu priod leoedd, ac yn bwysicach fyth, eu bod yn ffitio gyda'i gilydd yn ddi-dor a gall pobl ddeall pwy sy'n gyfrifol am gyflawni beth ac am reoleiddio beth. Felly, mae hynny'n rhan ohono hefyd.
Ac yna, fe fyddwch yn gwybod cystal â minnau fod gan bob un ohonom rywfaint o gyfrifoldeb personol am hyn hefyd, gan fod llawer o'r gollyngiadau carthion yn enwedig yn digwydd am fod pobl yn rhoi pethau cwbl amhriodol mewn carthffosydd. Felly, cefais sgwrs yr wythnos hon ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud ar lefel y DU yn enwedig, a gallwch helpu gyda hyn—gwn eich bod yn teimlo yr un peth â mi—i sicrhau bod y labelu ar gynhyrchion yn gywir, fel nad oes gennym bethau fel cadachau gwlyb a ffyn cotwm a phethau felly, sy'n dweud 'bioddiraddadwy' pan nad ydynt yn fioddiraddiadwy mewn gwirionedd, neu'n dweud eu bod yn 'iawn i fflysio'—hyd yn oed yn waeth—pan nad ydynt, a gallwn sicrhau nad yw pobl yn tagu'r system gan achosi digwyddiadau. Felly, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud hyn, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn fwy na pharod i gydweithio gyda chi a nifer o bobl eraill ledled Cymru, fel tîm, i sicrhau bod gennym y mathau cywir o ymatebion i'r mathau hyn o ddigwyddiadau.
Diolch. Ac rwy'n falch iawn fy mod wedi llwyddo i sicrhau bod hynny wedi'i gofnodi, eich bod yn deall bod yna broblem gyda hynny.
Ond i ddychwelyd yn benodol at ein cwmnïau dŵr, eleni mae 23 o wahanol leoliadau wedi cael gwerth dros 2,000 awr o ollyngiadau yr un, pum lleoliad wedi cael gwerth dros 3,000 awr a phedwar wedi cael gwerth dros 4,000 awr. Felly, roeddwn yn ddigon pryderus i ysgrifennu atoch, ac fe wnaethoch ymateb gan nodi, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda chwmnïau dŵr Cymru i ddatblygu cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff, a elwir hefyd yn DWMPs, ar gyfer y 25 mlynedd nesaf. Bydd y cynlluniau'n helpu i sicrhau bod ein cwmnïau dŵr yn buddsoddi'n strategol ac yn dryloyw mewn rhwydwaith trin dŵr gwastraff sy'n gadarn ac yn fforddiadwy yn hirdymor ac yn y tymor byr.'
Nawr, yn ddiweddar, yn ein haber ger Deganwy, yn fy etholaeth, mae nifer fawr o drigolion wedi bod yn cwyno am garthffosiaeth amrwd yn arnofio ac arogl erchyll, ac fe wnaeth hyn barhau am beth amser. Felly, ar ôl tynnu sylw Dŵr Cymru at y broblem, ni chymerwyd camau ar unwaith, a chefais fy mherswadio oherwydd hynny i roi gwybod yn uniongyrchol i CNC am y sefyllfa. Ac mae'n ddrwg gennyf, ond mewn nifer o'r achosion hyn, Weinidog, ni ellir honni bod y camau gorfodi a gymerir gan CNC yn hanner digon cadarn. Ychydig wythnosau yn ôl, roedd ein ffermwyr yn cael eu beio am lygredd yn ein hafonydd, a chafodd system ormesol y parthau perygl nitradau ei rhoi ar waith. Felly, Weinidog, pa gamau sydd ar y gweill gennych i sicrhau bod ein cwmnïau dŵr—[Torri ar draws.]—yn chwarae rhan fwy cyfrifol eu hunain drwy beidio â chaniatáu—? A hoffech chi ymyrryd? [Torri ar draws.]
Nid oes unrhyw ymyriadau mewn cwestiynau.
A phan fyddant yn digwydd, fod y cwmnïau a CNC fel y rheoleiddiwr yn rhoi camau llymach ar waith.
Felly, unwaith eto, credaf fod eich casgliad yn ymestyn pethau braidd o'r set o ffeithiau a gyflwynwch. Felly, fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, fe wnaf ei ailadrodd: mae llawer iawn o bobl, wrth gwrs, yn effeithio ar gyrsiau dŵr ac ansawdd dŵr ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys pob un ohonom, ein cymunedau, ein diwydiannau, a'r bobl sy'n defnyddio'r dŵr, ac sy'n ei ollwng i'n hafonydd. Mae'n cynnwys, wrth gwrs, y cwmnïau dŵr, ond mae hefyd yn cynnwys ffermwyr a busnesau amaeth, ac mae'n rhaid i bawb chwarae eu rhan. Mae'n rhaid i bawb leihau eu hallyriadau, mae'n rhaid i bawb fwrw ymlaen â ffordd fwy gwyrdd a glanach o ddefnyddio ein cyrsiau dŵr, neu ni fydd modd inni wella eu cyflwr a chynyddu ein bioamrywiaeth, ac ansawdd ein dŵr yn wir.
Felly, wrth gwrs, bydd angen inni weithio gyda'n gilydd, ac fel y dywedais, rydym yn cynnal adolygiad o'n trefn reoleiddiol, y gwaith cyflawni, ac a yw lle dylai fod, a yw'n effeithiol ai peidio, a sut y gallwn gynyddu ein rheoleiddio a gallu ein partneriaid cyflenwi i wella ein cyrsiau dŵr. Felly, mae pawb ohonom yn ceisio cyrraedd yr un lle. Ond nid yw'n fater o bwyntio bys, mae'n rhaid i bawb chwarae eu rhan, ac mae hynny'n sicr yn cynnwys y ffermwyr.
Diolch, Weinidog. Nawr, ar bwnc arall, rwy'n pryderu bod ceisiadau cynllunio wedi dod i stop oherwydd y targedau newydd ar gyfer llygredd ffosffad mewn afonydd. Mae'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi wedi dweud wrthyf fod y gwaith o gyflenwi pob cartref newydd, rhai fforddiadwy a rhai preifat, yn cael ei effeithio mewn nifer o awdurdodau, gan gynnwys Mynwy, Casnewydd, sir Gaerfyrddin, Wrecsam, sir y Fflint, Ceredigion, sir Benfro, parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Phowys. Mewn gwirionedd, mae ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'r strategaeth a ffefrir gan gyngor Mynwy ar gyfer eu cynllun datblygu lleol newydd yn nodi:
'Rhaid i'r Cynllun Adnau a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cysylltiedig ddangos niwtraliaeth maethynnau neu welliant er mwyn cael eu hystyried yn gadarn.'
Er fy mod yn gyfarwydd â'r grŵp goruchwylio rheoli ardaloedd cadwraeth arbennig, yr is-grŵp cynllunio a bwrdd prosiect CNC gyda'i nifer o ffrydiau gwaith, a allwch chi egluro i mi sut y gall awdurdod cynllunio lleol ddangos niwtraliaeth maethynnau pan nad yw Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar ddatrysiad neu gynnig unrhyw ganllawiau eto? Diolch.
Ie, felly, unwaith eto, mae a wnelo hyn â methu cael y gorau o ddau fyd. Felly, ni allwch ddweud eich bod o blaid gwneud rhywbeth i liniaru newid hinsawdd ac yna cwyno am bob mesur a roddwn ar waith er mwyn gwneud hynny. Felly, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol. Mae'n rhaid i gynghorau wneud ymdrech, ochr yn ochr â'r holl bartneriaid eraill. Ni allwn barhau i adeiladu'n ddifeddwl ar ein gorlifdiroedd, heb ystyried y llygredd, heb ystyried y systemau carthffosiaeth rydych newydd fod yn sôn amdanynt, heb ystyried gallu'r seilwaith i ymdopi â hynny a chadw ein cyrsiau dŵr yn lân. Felly, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol.
Felly, mae a wnelo hyn â dod â grŵp o bobl ynghyd i sicrhau bod yr holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth hyn—ac rydym eisoes wedi'u rhestru sawl gwaith heddiw—yn gweithio gyda'n gilydd yng Nghymru i sicrhau ein bod, pan fyddwn yn adeiladu pethau, yn eu hadeiladu i'r safonau cywir gyda'r systemau cywir ar waith, nad ydynt yn gorlwytho'r systemau carthffosiaeth cyfredol, nad ydynt yn rhoi pwysau ar y gweithfeydd trin gwastraff i'r graddau ein bod yn gweld y gollyngiadau rydych newydd fod yn sôn amdanynt, a'n bod yn gwneud hynny fel ein bod yn gwella ac yn cynyddu ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth. Nid oes unrhyw ffordd arall ymlaen. Ni allwn gwyno na allwn adeiladu ar y naill law a dweud ar y llaw arall ein bod yn caru’r blaned ac eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch. Nid yw'r ddau beth yn gydnaws.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Weinidog, hoffwn eich holi yn gyntaf ynglŷn â llywodraethu amgylcheddol. Mae Environmental Standards Scotland wedi cychwyn ar eu rôl statudol fel corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol. Mae'r Alban hefyd wedi rhoi egwyddorion amgylcheddol craidd ar waith, gyda dyletswyddau a chanllawiau cysylltiedig, a disgwylir i Fil Amgylchedd San Steffan gael ei basio yn yr hydref gyda swyddfa diogelu'r amgylchedd i ddarparu trosolwg annibynnol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae patrwm yn dod i'r amlwg ym mhobman arall. Argymhellodd rhanddeiliaid yng Nghymru gamau cyfatebol ar gyfer Cymru yng ngwanwyn 2020, ond ni chawsom ymrwymiad cadarn o hyd i amserlen ar gyfer deddfu, sy'n golygu bod gan Gymru fwlch llywodraethu amhenodol. Mae mynediad dinasyddion at gyfiawnder yn sgil torri deddfau amgylcheddol wedi'i leihau, ac nid yw'r amgylchedd yn cael ei amddiffyn cystal. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo'n gadarn os gwelwch yn dda i gyflwyno'r ddeddfwriaeth a addawyd ar egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol yn ail flwyddyn y Senedd hon?
Diolch, Delyth. Rydych chi a minnau wedi trafod y mater hwn sawl gwaith, ac rwy'n llwyr ddeall yr hyn a ddywedwch. Wrth gwrs, gallem fod wedi ystyried ymuno â Llywodraeth y DU gyda'u trefniadau, ond roeddem o'r farn, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno, nad yw'r trefniadau hynny'n gweddu i'r sefyllfa sydd gennym yma yng Nghymru, ac y byddai'n well o lawer pe bai gennym ein system ein hunain ar waith.
Mae gennym drefniant dros dro yn ei le, fel y gwyddoch, ac rydym wedi ymrwymo i gyflwyno trefniadau llywodraethu sy'n addas i Gymru. Bydd y Prif Weinidog yn rhoi—wel, nid wyf yn siŵr ai’r Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol fydd yn gwneud hynny, ond bydd un ohonynt yn gwneud datganiad i’r Senedd cyn bo hir ynglŷn â blynyddoedd nesaf y rhaglen ddeddfwriaethol, a mater iddynt hwy yw gwneud hynny, nid i mi. Ond rydym yn gweithio'n galed iawn y tu ôl i'r llen i sicrhau bod gennym y gallu a'r sgil a'r ddawn i ddod â'r holl linynnau unigol ynghyd i sicrhau, pan fyddwn yn cyflwyno'r trefniadau llywodraethu drwy'r pwyllgorau craffu ac ar lawr y Senedd, eu bod yn addas at y diben. Felly, rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch yn llwyr, ond rydym yn y broses o weithio i sicrhau bod gennym yr holl drefniadau ar waith fel y gallwn gael y trefniadau llywodraethu gorau posibl ar gyfer Cymru. Oherwydd ein bod yn dymuno gwneud hynny, nid oeddwn yn credu ei bod yn briodol ymuno â system Lloegr yn yr achos hwn. Mae arnaf ofn fod hynny wedi arwain at oedi, ond credaf yn y pen draw mai dyna'r llwybr gorau.
Iawn. Edrychaf ymlaen at glywed y datganiad hwnnw pan ddaw.
Byddaf i'n gofyn y cwestiwn nesaf yn Gymraeg, Weinidog. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rŷn ni wedi gweld ymrwymiadau pwysig ar gyfer natur ar lefel y Deyrnas Unedig trwy addewid yr arweinwyr dros natur, y Glymblaid Uchelgais Uchel dros Natur a Phobl, a chompact natur G7 2030. Mae'r ymrwymiad i amddiffyn 30 y cant o dir a môr ar gyfer natur erbyn y flwyddyn 2030. Mae hynny'n garreg filltir allweddol. Mae'n cael ei gyfeirio ato fel 30 erbyn 30, ac mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Alban ac mae wedi cael ei gymeradwyo yng Ngogledd Iwerddon. Os ydyn ni'n gweithredu nawr, gall hyn gael ei gyflawni. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud hynny'n glir hefyd, ond does dim datganiad o gefnogaeth i 30 erbyn 30 wedi dod eto gan Lywodraeth Cymru. A fyddech chi, Weinidog, plis yn gallu ymrwymo nawr i sicrhau amddiffyniad effeithiol o 30 y cant o dir a 30 y cant o'r môr yng Nghymru erbyn y flwyddyn yna, sef 2030?
Diolch, Delyth. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n edmygu eich ymdrechion i wneud i mi ddatgan polisi Llywodraeth fel rhan o'r cwestiynau, ond rwyf am wrthsefyll y demtasiwn.
Wrth gwrs, mae gennym gryn ddiddordeb mewn gallu ymuno â chynllun o'r fath; rydym yn edrych i weld a yw hynny'n rhywbeth yr ydym am ei wneud yn ffurfiol iawn yn y ffordd honno yma yng Nghymru, neu a oes llwybrau eraill i Gymru wneud hynny. Rydym yn benderfynol iawn o ddiogelu ein tirweddau naturiol ac yn benderfynol iawn, iawn o wella eu cyflwr. Felly, rwyf wedi cael amryw o gyfarfodydd gyda grwpiau ledled Cymru a chanddynt bryderon mewn perthynas â gwahanol fathau o dirweddau. Mae wedi bod yn addysg ac yn fraint siarad â phob un ohonynt. Felly, ardaloedd amrywiol fel tirweddau coediog, gwastadeddau Gwent, y gwair hir lle clywir cri'r gylfinir, y gorgorsydd, y gwlyptiroedd; mae gennym ystod o dirweddau sy'n galw am fuddsoddiad yn ogystal â chymorth, mae'n rhaid imi ddweud, i'r nifer canmoladwy o bobl sydd eisoes yn gweithio ledled Cymru i ddiogelu a gwella ein tirweddau.
Byddwn mewn sefyllfa i ddweud rhywbeth wrth y Senedd maes o law, Lywydd, ond mae arnaf ofn, Delyth, fy mod am wrthsefyll y demtasiwn a gynigiwch i mi, y trysor a ddaliwch o fy mlaen i fy nghymell i'w wneud yn awr. Felly, nid wyf am wneud hynny yn awr, ond edrychaf ymlaen at allu cyhoeddi rhywbeth maes o law.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, mae gwneud ymrwymiadau o'r natur hon, maent yn symbolaidd, felly mae cymaint o'r egwyddorion hyn sy'n sail i'r ymrwymiadau'n hanfodol bwysig, felly nid wyf am ymddiheuro am alw arnoch i wneud ymrwymiad arall yn fy nghwestiwn olaf, sy’n ymwneud, mewn gwirionedd, â'r datganiad o argyfwng natur a wnaethom fel Senedd ym mis Mehefin, rhywbeth yr oedd pob un ohonom mor falch ohono fel carreg filltir arall. Roedd hynny'n elfen hanfodol o'r cynnig hwn a basiwyd, a alwai ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofynion sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Gwn eto fy mod yn gofyn i chi am dargedau ac ati, ond mae'r pethau hyn—fel y byddwch yn cytuno rwy'n siŵr—yn hynod bwysig wrth lywio'r ffordd y caiff y polisïau hyn eu rhoi ar waith.
Byddai Bil ar egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol yn cynnig cyfrwng delfrydol i wneud hyn, ond Weinidog, yn eich gohebiaeth ddiweddar â'r pwyllgor newid hinsawdd pan oeddech yn cyfeirio at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Amgylchedd y DU, fe wnaethoch wrthod ymrwymo i achub ar y cyfle hanfodol hwn. Fe ddywedoch chi fod yn rhaid aros tan ar ôl y COP15 ym mis Mai 2022 cyn gwneud y penderfyniad hwnnw. Nawr, rwy'n deall, wrth gwrs, pam y byddech chi mewn sawl ffordd yn dymuno gweld canlyniad hynny, ond efallai nad yw aros yn rhywbeth y gallwn fforddio ei wneud. Mae Cymru ymhlith y gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd. Does bosibl na allem arwain drwy osod nodau uchelgeisiol cyn COP15, a bwrw ymlaen â deddfwriaeth sylfaenol hanfodol i greu penawdau, fel y gallwn, ie, atal a dechrau gwrthdroi colli bioamrywiaeth yng Nghymru erbyn 2030, a sicrhau adferiad erbyn 2050. Felly, Weinidog, yr ymrwymiad olaf rwyf am alw arnoch i’w wneud yw: a wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio’r Bil egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol?
Unwaith eto, Delyth, rwyf am wrthsefyll eich galwad, mae arnaf ofn, ond rwyf yn ei deall, wrth gwrs. Rydym am sicrhau bod—. Rydym wedi datgan yr argyfwng natur; mae pob un ohonom yn cytuno â'r hyn a ddywedwch am golli bioamrywiaeth a'r angen i amddiffyn ein tirweddau, wrth gwrs ein bod. Yr hyn rydym am ei wneud yw sicrhau bod gennym y camau ar waith i ddiogelu a gwella'r tirweddau hynny. Wrth gwrs, byddwn yn gosod targedau—dyna sut y byddwch yn ein dwyn i gyfrif—ond nid yw'r targedau eu hunain yn gwneud unrhyw beth ond mesur a ydym yn llwyddo neu'n methu. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynlluniau gweithredu i sicrhau ein bod yn gwneud y gwaith, ac rwyf am wneud hynny gydag Aelodau o'r Senedd a'r pwyllgorau a chyda chynghorwyr gwyddonol allanol. Rydym yn cynnull grŵp cyngor technegol a fydd yn ein helpu i wneud hynny a chyda'r nifer fawr o grwpiau o arbenigwyr amatur ledled y wlad sydd wedi gweithio mor galed yn eu meysydd penodol, i ddeall a gwybod beth sydd angen ei wneud yn eu tirweddau penodol. Felly, nid wyf yn mynd i ruthro pethau; byddwn yn rhoi’r targedau ar waith fel y gellir ein dwyn i gyfrif, ond yn bwysicach fyth, byddwn yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod gennym y set gywir o gynlluniau gweithredu ledled Cymru i roi’r diogelwch a’r gwelliannau sydd eu hangen arnom ar waith, ac nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ei wneud yn gyflym. Rwyf am sicrhau bod y cynlluniau hynny'n gywir, nad ydynt yn arwain at ganlyniadau anfwriadol, a'n bod yn diogelu'r holl dirweddau iawn yn y lleoedd iawn. Felly, nid yw hwnnw'n ateb cyflym, ond mae'n ateb, ac rwy'n deall yn llwyr yr angen i roi targedau ar waith ar ôl inni gytuno ar y camau hynny, er mwyn sicrhau wedyn ein bod yn gwneud yr hyn a ddywedwn.