Cysondeb Landlordiaid

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:15, 6 Hydref 2021

(Cyfieithwyd)

Ie. Diolch, Janet. Bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, fel y'i diwygiwyd yn ddiweddar gan Ddeddf 2021, yn cynyddu diogelwch deiliadaeth ac yn symleiddio'r ddeddfwriaeth ar rentu'n sylweddol, gan sicrhau bod yr holl hawliau a chyfrifoldebau allweddol yn cael eu nodi mewn contract ysgrifenedig. Bydd hyn yn cefnogi parhad ac o fudd i denantiaid a landlordiaid fel ei gilydd.