1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 6 Hydref 2021.
Hoffwn ddatgan buddiant a chyfeirio'r Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd at gategori 8, tir ac eiddo, ar fy nghofrestr buddiannau.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) (Diwygio) 2021 ar gysondeb landlordiaid yn y sector rhentu preifat? OQ56950
Ie. Diolch, Janet. Bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, fel y'i diwygiwyd yn ddiweddar gan Ddeddf 2021, yn cynyddu diogelwch deiliadaeth ac yn symleiddio'r ddeddfwriaeth ar rentu'n sylweddol, gan sicrhau bod yr holl hawliau a chyfrifoldebau allweddol yn cael eu nodi mewn contract ysgrifenedig. Bydd hyn yn cefnogi parhad ac o fudd i denantiaid a landlordiaid fel ei gilydd.
Diolch. Ar adeg cymryd meddiant ar unrhyw gartref, gall landlord wynebu costau o fwy nag oddeutu £30,000 wrth ystyried rhent a gollwyd, ffioedd cyfreithiol ac yn aml, difrod y bydd angen ei gyfrifo. Wrth gwrs, bydd hynny'n digwydd pan nad yw tenantiaid yn cyflawni eu rhwymedigaethau hwy yn y les. Nawr, adroddir am oedi ar bob cam o'r broses o gymryd meddiant, gyda'r amser canolrifol yn 21.1 wythnos erbyn mis Mawrth 2020. Gyda'i gilydd, mae hyn yn arwain at ddiffyg hyder sylfaenol ein landlordiaid yn system y llysoedd fel y mae ac mae perygl o danseilio'r amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer gwneud iawn a roddwyd mewn grym i denantiaid drwy'r Ddeddf rhentu cartrefi.
Nawr, fel y dywedodd Propertymark wrthyf, mae perygl gwirioneddol y bydd landlordiaid, yn enwedig y rhai sy'n berchen ar un eiddo, yn gadael y sector hwn sy'n darparu cartrefi mawr eu hangen. Nawr, ym mis Hydref y llynedd, argymhellodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y dylid cynnal ymchwiliad i'r angen am dribiwnlys tai annibynnol a phenodol yng Nghymru. Felly, Weinidog, a wnewch chi gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch i adolygu'r posibilrwydd o ddatblygu tribiwnlys tai penodol i Gymru? Diolch.
Wel, wyddoch chi, Janet, weithiau, rwy'n teimlo ychydig yn flinedig o'r ffordd y mae'r Ceidwadwyr bob amser yn gwrthwynebu mesurau y dywedant eu bod yn mynd i atal cyflogaeth ar yr isafswm cyflog ac atal landlordiaid rhag dod i mewn i'r sector cartrefi rhent os oes unrhyw fath o reoleiddio, er gwaethaf yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Felly, gadewch imi ddweud yn glir fod y ddeddfwriaeth rhentu cartrefi yn amlwg yn gwneud y broses o rentu'n decach ac yn fwy diogel, ond mae'n dal i fod gan landlordiaid ddulliau at eu defnydd o ennill meddiant lle caiff contract ei dorri.
A hoffwn ddweud bod data gan Rhentu Doeth Cymru yn dangos inni fod y sector rhentu preifat yn tyfu ar hyn o bryd mewn gwirionedd ac nad yw'n crebachu, er gwaethaf yr holl rybuddion gennych chi ac eraill. Felly, roedd gennym 207,000 eiddo ym mis Rhagfyr 2019 ac mae gennym 216,000 ym mis Awst eleni. Mae nifer y landlordiaid cofrestredig hefyd wedi parhau i dyfu; roedd gennym 102,711 ar ddiwedd mis Rhagfyr 2019, 106,936 ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020 a 107,059 ar ddiwedd mis Awst. Felly, fe welwch gynnydd parhaus yn nifer y landlordiaid ac nid gostyngiad, er gwaethaf proffwydoliaethau enbyd pobl ar y meinciau gyferbyn. Felly, nid yw'n wir o gwbl fod cyflwyno trwyddedu, cofrestru a systemau tecach yn atal landlordiaid. Ac fel y dywedaf yn barhaus, mae landlordiaid da yn hoffi rheoleiddio da, maent am gael eu digolledu'n deg am y cartrefi da iawn a ddarparant i bobl a'r cyfan a wnawn ni yw sicrhau bod yr arferion sy'n dwyn anfri ar y sector yn sgil gweithredoedd nifer fach iawn o unigolion yn cael eu dileu fel y gellir gwobrwyo ein landlordiaid da. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i weithredu'r ddeddfwriaeth rhentu cartrefi, fel y dywedais. Rwy'n awyddus iawn i gyflawni ein hymrwymiad i gael o leiaf chwe mis o amser paratoi ar gyfer tenantiaid, landlordiaid ac eraill drwy roi'r dogfennau allweddol y byddant eu hangen iddynt, a bydd hyn yn dechrau digwydd dros y misoedd nesaf.
Ar y tribiwnlys, rwy'n hapus iawn i barhau i edrych ar hynny. Nid wyf yn anghytuno â'r syniad o dribiwnlys tai mewn gwirionedd, ond mae'n rhaid ei osod yn ei gyd-destun, felly mae nifer o bethau eraill y bydd angen inni edrych arnynt ar yr un pryd. Ond nid wyf yn anghytuno ag egwyddor hynny mewn gwirionedd; mater o edrych ar y manylion fydd hi, fel bob amser.