Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 6 Hydref 2021.
Nid yr argyfwng byd-eang nesaf yw'r argyfwng hinsawdd a natur; mae eisoes gyda ni. Nid yw'n broblem y gallwn ei gadael i'n plant a'u plant hwythau. Rhaid inni weithredu yn awr. Fel Llywodraeth, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddatgan argyfwng hinsawdd, i wahardd ffracio ac i osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn dros 60,000 o gartrefi fel rhan o'r degawd diwethaf o weithredu. Mae'r degawd nesaf o weithredu yn gwbl allweddol, ac mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae. Fel gwlad, rydym ar y blaen yn fyd-eang ym maes ailgylchu, ond mae rhwystrau gwirioneddol i drigolion yn ein cymunedau rhag gallu chwarae eu rhan yn y trawsnewidiad gwyrdd. Sut y bydd y Gweinidog nid yn unig yn annog ond yn cynorthwyo trigolion ledled Cymru i fyw bywyd gwyrddach?