Ffermydd Teulu Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:27, 6 Hydref 2021

Rwy'n cynnal trafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar sawl mater sy'n berthnasol i'n portffolios, ac wedi cael trafodaeth benodol gyda'r Dirprwy Weinidog ar y cwestiwn penodol hwn. Mae cyflawni'n targedau adeiladu coetiroedd yn allweddol i'r maes newid hinsawdd ac yn creu ffynhonnell incwm newydd i ffermwyr, yn cynnwys ffermwyr sydd mewn teuluoedd sy'n siarad Cymraeg. Rŷn ni’n cydnabod na ddylai buddsoddiadau effeithio ar gymunedau, na chwaith newid y math o dirfeddianwyr.