Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 6 Hydref 2021.
Diolch, Lywydd. Mi oeddwn i'n falch iawn o weld bod niferoedd profion COVID positif mewn ysgolion wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnos diwethaf—dwi'n siŵr eich bod chithau yn falch o weld hynny hefyd—gostyngiad o 44 y cant. Ond mae ysgolion yn parhau i fod mewn sefyllfa fregus iawn, wrth gwrs, efo rhai dosbarthiadau efo hanner y disgyblion wedi profi'n bositif am COVID. Mae prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd, Dr Rob Orford, wedi tynnu sylw at fater o bryder arall ar ben hyn, sef y gallai ail ymddangosiad afiechydon anadlol a gafodd eu hatal yn ystod y cyfnod clo diwethaf achosi problemau. Hynny yw, gall plant gael eu cyd-heintio efo COVID a salwch arall sy'n effeithio ar yr ysgyfaint ac yn y blaen—ffliw, annwyd ac ati. Mae hyn yn bryder. Fedrwch chi roi asesiad i ni, neu ydy'r Llywodraeth yn gwneud asesiad, o'r risg penodol yma, sy'n gysylltiedig efo diffyg imiwnedd ymhlith plant? Ac yn sgil hynny, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn safleoedd diogel dros y gaeaf?