Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 6 Hydref 2021.
Wel, mae'r cynlluniau sydd gyda ni eisoes ar waith—y fframweithiau sy'n gweithio ym mhob rhan o Gymru—bwriad y polisi hwnnw, wrth gwrs, yw sicrhau bod ein hysgolion ni yn saff ar gyfer ein dysgwyr ni a'n hathrawon ni a'r gweithlu ehangach, a bod y mesurau sy'n cael eu cymryd yn ein hystafelloedd dosbarth ni ac yn ystâd ehangach yr ysgol yn adlewyrchu anghenion yr ysgol ei hun ond hefyd y cyd-destun iechyd lleol o ran iechyd cyhoeddus. O ran y pwynt penodol y gwnaeth yr Aelod ei godi ynglŷn â'r cyngor penodol, mi wnaf i ystyried hynny gyda'r gwyddonydd a gweld beth y gallaf i ei rannu gydag Aelodau yn ehangach am hynny.