Cofrestru i Bleidleisio

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 6 Hydref 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:49, 6 Hydref 2021

Diolch yn fawr ichi, Weinidog, oherwydd mae e'n hollbwysig, onid yw e? Dyma pam rydym ni fan hyn—rydym ni'n trafod dyfodol y bobl ifanc yma, a siom fawr, siŵr o fod, i'r rhan fwyaf ohonom ni fan hyn heddiw, oedd cyn lleied o bobl ifanc wnaeth bleidleisio: hanner y bobl 16 ac 17. Llai na hanner wnaeth gofrestru i bleidleisio. Problem arall, wrth gwrs, yw'r hygyrchedd i bleidleisio. Dwi'n cofio siarad ag un ferch ifanc, 17 mlwydd oed, ar ôl i'r bocsys pleidleisio gau, yn dweud ei bod wedi methu â chael cyfle i bleidleisio. Aeth hi'n syth o'r ysgol i'w gwaith hi, ac, felly, heb gael cyfle i bleidleisio. Pa drafodaethau ydych chi, fel Llywodraeth, yn eu cael gydag ysgolion a cholegau er mwyn dangos i'r bobl ifanc y pwysigrwydd o bleidleisio, ond hefyd i wneud e'n fwy hygyrch iddyn nhw bleidleisio? Diolch yn fawr.